Cyfieithiad Ifor ap Glyn o un o gerddi Nedim Türfent. Cyfieithwyd i’r Gymraeg drwy gyfieithiad Saesneg gan Caroline Stockford. Gweler y gerdd wreiddiol a’r cyfieithiad Saesneg ar y dudalen hon.

Mae unigrwydd yn gosod ei law ar fy nghalon
Tu mewn i mi
Jest fanno, jest rhywle
Rhyw wayw ysgafn, rhyw felan dyner.

Sut fedra’i esbonio?
Yn y tywyllwch dudew
Ymgodymaf a brwydraf hefo d’absenoldeb di

Dy absenoldeb
sy’n antur ddiderfyn.
Llenwaf dudalennau gweigion
hefo llinellau bwygilydd dy eisiau di,
eu sgriblo ar frys

Mae dy gyfleu, a geirio
d’absenoldeb
yn beth mor anodd i’w wneud!
Mae ymdrechu sgwennu atat
fel math o atal dweud
yn dafodrwym, yn sownd yn ei hun
a minnau’n methu llefaru’n ddiflewyn
ar y tudalennau toreithiog hyn
Bodolaf yng nghofrestr
dy absenoldeb di.

Yma ar erchwyn
fy llygaid tost, mae’n hawdd dweud
‘mod i’n dy golli. Yma, mewn cell faint cledr dy law
mae d’absenoldeb di
fel llond y byd o hiraeth.


Related Posts