Cerdd gadwyn – i gofio Refaat Alareer // A chain poem – in memory of Refaat Alareer

Fe ddaeth cerdd y bardd a’r academydd Refaat Alareer,  If I Must Die, yn dorcalonnus o wir yn sgil ei farwolaeth yn Shujaiya ar Rhagfyr 6ed, dan law byddin Israel. Dim ond dyddiau ynghynt fe bostiodd y gerdd ar ei gyfrif X/ Twitter.  Fe’i rhannwyd yn eang ers hynny ac chafodd ei throsi yn gelfydd i’r Gymraeg gan Iestyn Tyne.

 

 

Poet and academic Refaat Alareer’s poem, If I Must Die, became heartbreakingly true in the wake of his death in Shujaiya on December 6th, by  the Israeli army. Just days before he had pinned the poem to his X / Twitter account.  It was widely shared and it has been skilfully translated into Welsh by Iestyn Tyne.

Rydym yn falch o rannu cerdd newydd gan ein llywydd Menna Elfyn i gofio am Refaat, yn ymateb i’r gerdd. 

Cerdd gadwyn  – i gofio Refaat Alareer

Ac weithiau dim ond cerdd-ffwrdd -a -hi

yw’r un sy’n cyfri, a’th gerdd am anfon

barcud i’r awyr yn ein clyw.

Achos ti bellach yw’r achos

dros lunio rhes o eiriau na

allant aros…

 A thi yw’r chwedl bellach,

sy’n croesi o genedl i genedl

o’r awen i’r galon, am iddynt

ddwyn dy anadl, a’th ddadl

dros firi byw, a’th eiriau

yn dal yr awel heb deml

o deimlad- na lleddfu greddf

gŵr, oed gwaseidd-dra,

ac nid all ein griddfan

 o alargan ddal

llinyn dy farcud plentyn

ond

gallwn edrych i’r entrych

gweld o’r newydd y rhai

dan sawdl yno’n dawel

yn yr awel –   sy mor driw o

-drwyadl dros gyfannedd,

annedd, rhai newydd eu geni;

o’r tu draw  yn alaw ynom,

nad oes atal iddi – ac  nad

 distadl y  werin na diraid—

  ond lliaws a’u dadl

dros anian – eu mangre –

 Palesteina—

edrychwch eto ac fe welwch

o’r  llinyn ollyngwyd

 yn rhydd yn ei law

 y barcud yn cyhwfan uwchben.

Menna Elfyn

 

 

Cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth Wales PEN Cymru ar walespencymru@gmail.com.

Twitter ~ Facebook

Gellir ymaelodi â PEN Cymru am £2 neu £4 y mis drwy glicio fan hyn.

We are pleased to share a new poem by our president Menna Elfyn in memory of Refaat, inspired by the poem.

A chain poem – in memory of Refaat Alareer

Sometimes only a slap-dash poem

will do, with your lines on launching

a kite to the wind in our ears.

Because now, you are the reason

to line up the words that

cannot wait…

 And you are now the story,

crossing continents

that inspires the heart, for they

took your breath, and your plea

for life’s pleasures, and your words

are on the wind without a temple

of feelings – nor an easing of

a man’s instinct in servility,

and our wailing

elegies cannot catch

your child’s kite string

but

we can look up to the sky

and see in the wind

the downtrodden and silent

anew  –   those so true

-and stoic for settling,

for homes, those newly born;

from afar a song within us,

that will not cease – and not

the lowly peasants nor the wicked —

 but a host who speak for

 creation  – their location –

  Palestine—

look again and you will see,

from the string released

freely from his hand

the kite flying high above.

Menna Elfyn

(translation by Nici Beech)

 

 Contact Wales PEN Cymru secretariat on walespencymru@gmail.com.

Twitter ~ Facebook

You can become a member of Wales PEN Cymru for £2 or £4 a month by clicking here.

Related Posts