Twrci: Apêl fyd-eang i nodi 1000 o ddiwrnodau ers carcharu Nedim Türfent
Mae dros 650 o ysgrifenwyr, newyddiadurwyr, cyhoeddwyr, artistiaid ac ymgyrchwyr yn galw am ryddhau’r golygydd newyddion, y gohebydd a’r bardd Nedim Türfent ar unwaith ac yn ddiamod. Mae heddiw’n nodi 1,000 o ddiwrnodau ers iddo gael ei arestio a’i ddedfrydu i wyth mlynedd a nawr mis yn y carchar ar gyhuddiadau o derfysgaeth ar gyhuddiadau ffug yn dilyn treial annheg. Yn ystod y treial hwnnw dywedodd nifer o dystion iddynt gael eu harteithio i dystio yn ei erbyn.
Mewn apêl a gyhoeddwyd heddiw (5/2/19) gan yr International Press Institute (IPI), The Media and Law Studies Association (MLSA) a PEN Rhyngwladol, mae llofnodwyr o bedwar ban byd wedi addo eu cefnogaeth i Nedim Türfent a’i frwydr dros gyfiawnder. Dywed y llythyr:
‘Today, we are writing to let you know that you are not alone. We stand alongside you and unite our voices to call for your immediate and unconditional release. We will continue to fight for the rights of journalists and writers – in Turkey and around the world – to be able to write freely, and for all those jailed for peacefully expressing their views to be free.’