Image of a peace dove carrying an olive branch

PEN Rhyngwladol yn galw am heddwch – Chwalwch pob casineb / PEN International calls for peace-Dispel all hatreds

 

20 Hydref: Yn y trydydd  degawd o’r 21 ganrif, mae pobl yn medru gweld yn bell i’r pellteroedd eithaf ac i gyfnodau pellennig hanes y bydysawd. Gallwn gyhoeddi llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth  ag iddynt  berthnasedd hynod  a chynnil. Ac eto, bron bob dydd yn y byd, wynebwn farbareiddiwch cynyddol, y rhan fwyaf wedi ei anelu at ein cymdogion agosaf.  Mae gwrthdrawiadau ffiaidd ar hyn o bryd yn effeithio’r holl fyd.

“Mae PEN yn parchu ac amddiffyn  urddas pobl. Mae PEN yn gwrthwynebu anghyfiawnder a thrais ble bynnag y bo, gan gynnwys gormes, coloneiddio, meddiant o  diroedd  yn  anghyfreithlon neu derfysgaeth.” Maniffesto Bled o Bwyllgor Ysgrifennwyr Dros Heddwch PEN Rhyngwladol

Ni ellir cyfiawnhau  lladd trwy ddial, terfysgaeth ac ymosod ar ddinasyddion pa mor  gryf bynnag yw’r synnwyr o annhegwch. Maent yn wrthun i’r ddynoliaeth. Mae erchylltra  yn ei hanfod yn  pryfocio mwy o erchylltra. Mae’r gallu i hau anfadwaith yn dileu unrhyw hawl i dderbyn cydymdeimlad. Nid yw’r dymuniad i reoli tiriogaeth yn esgus dros greulondeb a  gormes.

Mae ymddygiad  nifer helaeth o lywodraethau yn gwneud ffwlbri o ddyheadau a delfrydau’r Cenhedloedd Unedig,  delfrydau y gwnaethant dyngu llw iddynt. Pan fo aelodau o’r Cyngor Diogelwch yn agored yn wfftio ei bwrpas, all y byd wneud dim mwy na galaru’r safbwynt anghyfrifol hwnnw.

Mae Datganiad Rhyngwladol Hawliau Dynol mewn perygl nid yn unig o du’r llywodraethau hynny, sydd yn ystyried eu  darpariaeth yn ddewisol ond oddi wrth y grymoedd hynny sy’n ymwrthod gan gredu bod eu hachos hwy yn  cyfiawhau erchylltra. Dyw’r naill na’r llall yn ddilys. Ni fydd neb yn goroesi os treuliwn y ganrif hon yn  ffraeo dros ddarlleniadau anghywir o hanes, syniadau  annilys ynghylch cenedlaetholdeb a’r  cyndynrwydd  ynghylch enwau, ffiniau daearyddol a baneri.

“Mae PEN yn cydnabod  ei fod o’r pwys mwyaf i fod yn ymroddgar yn barhaus er creu amodau  a all arwain i orffen  gwrthdaro o bob math.  Nid oes rhyddid heb heddwch, na heddwch heb ryddid; mae  cyfiawnder gwleidyddol a chymdeithasol yn anhygyrch heb heddwch a rhyddid.” Maniffesto Bled o Bwyllgor Ysgrifennwyr Dros Heddwch PEN Rhyngwladol

PEN Rhyngwladol:  ail gadarnhau y rheidrwydd moesol i osod hawliau pobl yn ganolog gydag unrhyw weithred gan lywodraethau neu gan eu  gwrthwynebwyr.

I arwyddo’r datganiad, cliciwch yma os gwelwch yn dda:

20 October: In the third decade of the 21st Century humans are able to see into the furthest reaches and most distant times of the universe. We can produce literature, art and music of extraordinary resonance and subtlety. And yet, almost every day in the world we are faced with escalating barbarism, mostly directed against our closest neighbours. Vicious conflicts are currently affecting the whole world.

“PEN respects and defends the dignity of all human beings. PEN opposes injustice and violence wherever they are found, including oppression, colonisation, illegal occupation and terrorism.” Bled Manifesto of PEN International’s Writers for Peace Committee.

Revenge killing, acts of terrorism and retaliation against civilians can never be justified, however passionate the cause or sense of grievance. Any such acts remain an affront to humanity. Atrocity merely provokes more atrocity. Some of its perpetrators know this and find glory in their ability to sow carnage. In doing so they relinquish any claim to sympathy. Their wish to control territory is no excuse for cruelty and repression.

The behaviour of a depressingly large number of governments makes a mockery of United Nations ideals and commitments to which they have signed up to. When members of the Security Council openly flout its purpose, the world can only mourn their vain irresponsibility.

The Universal Declaration of Human Rights is at risk not only from such governments, who regard its provisions as optional, but from those resistance forces that believe that their cause justifies butchery. Neither are legitimate. Nobody will survive if we spend this century squabbling over inaccurate readings of history, spurious ideas of nationalism and chauvinistic and intransigent demands about names, territorial boundaries, and flags.

“PEN acknowledges that it is of primary importance to be permanently committed to creating conditions that can lead to ending conflicts of all kinds. There is neither freedom without peace, nor peace without freedom; social and political justice is inaccessible without peace and freedom.” Bled Manifesto of PEN International’s Writers for Peace Committee

PEN International reaffirms the ethical imperative of placing the rights of people at the centre of any action by governments or their adversaries.

To sign up onto this statement, please click here.

 

 

 

Related Posts