Bu tri cham i’r broses gyfieithu. Er nad oedd yr un cam ar ei ben ei hun yn cynnig dealltwriaeth lawn o’r testunau, gyda’i gilydd roeddent yn ddigon o sylfaen i alluogi’r weithred derfynol: creu cerddi Cymraeg.
Yn gyntaf, darllenais y testunau yn ôl fy adnabyddiaeth (anghyflawn) o’r iaith Rwsieg. Canfûm gysgodion eu hystyr, a chefais ryw syniad llac o’u rhediad, ond nid llawer iawn, am taw ieithoedd eithaf gwahanol yw’r Bwyleg a’r Rwsieg, er gwaethaf eu gorgyffwrdd. Ond o leiaf nid oedd gramadeg y Bwyleg yn rhy ddieithr i mi. Gallwn weld, er enghraifft, y modd cyfarchol yn ymddangos yma a thraw, a sylwais pa mor bwysig y byddai ei gadw yn y cyfieithiadau Cymraeg.
Yn ail, anodais bob gair o ran ei ystyr a’i etymoleg (am fod geiriau mewn ieithoedd synthetig, dwys-ffurfdroadol yn llawn atseiniau ystyron). Erbyn gwneud hynny, a ‘deall’ y cerddi gwreiddiol ar wastad ieithyddol, euthum ati i’w cymharu â’r cyfieithiadau Saesneg a Sbaeneg a ddarparwyd, a nodi lle’r oeddent hwythau yn gwyro oddi wrth y gwreiddiol. Yn hyn o beth, cefais gymorth geiriadur/llyfr gramadeg Pwyleg a brynais ar drip ysgol i Kraków pan oeddwn yn fy arddegau, a minnau’n credu’n ddelfrytgar a naïf ar y pryd y gallwn ddysgu Pwyleg i fi fy hun. Rhyfedd fel y bu’r llyfr mor ddefnyddiol bron i ddegawd yn ddiweddarach!
Y trydydd cam oedd y mwyaf sylweddol, yn nwy ystyr y gair. Wedi imi ganfod ystyr a rhediad y cerddi gwreiddiol, euthum ati i drosi’r ysbryd y tu ôl iddynt, y peth annelwig hwnnw sy’n bywhau llenyddiaeth ac sy’n sefyll uwchlaw ystyr lythrennol, noeth. Rhywbeth tu hwnt i eiriau, bron. Ceisiais drosi’r ystyr ‘arall’ hon i’r Gymraeg mewn modd a wnâi gyfiawnder ag ysbryd ac adnoddau ein hiaith. Dyma yw y bont: cyfnewid gwefr.
Morgan Owen