Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019!

Bardd ac ysgrifwr yw Morgan Owen sy’n hanu o Ferthyr Tudful. Graddiodd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017. Mae’n cyfrannu yn gyson at gyhoeddiadau megis O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Y Stamp, ac mae hefyd yn rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith/Writers at Work Gŵyl y Gelli. Yn 2018, enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans (a gyflwynir gan Barddas) am yr ail flwyddyn yn olynol; ac ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr un flwyddyn. Ym mis Hydref 2018, roedd yn un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru. Fe oedd Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr eleni. Mae’n gweithio fel ysgrifennwr a chyfieithydd llawrydd.

Mae Morgan yn derbyn Ffon yr Her Gyfieithu a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ynghyd â gwobr ariannol o £200 gan Brifysgol Abertawe.

Yr her eleni oedd cyfieithu dwy gerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk: Szuflada a Relentlessly craving. Mae Julia Fiedorczuk yn fardd, awdur, cyfieithydd ac yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warsaw.

Daeth pedair ymgais i law’r beirniad, Dr Aled Llion Jones o Brifysgol Bangor, a ddywedodd:

“Rydym erbyn hyn yn hen gyfarwydd â’r dewis y mae rhaid ei wneud rhwng cyf-ieithu, trosi a trans-latio; y dewis rhwng creu cerdd Gymraeg o lais estron, a gadael i’r Gymraeg leisio’n estron. Ni waeth pa ddewis a wneir, rhaid – rhaid – medru clywed y llais a leisiodd gyntaf i fedru adael iddi siarad iaith arall, gydag acen fwriadol ai peidio. […] Rhaid nodi bod safon yr ysgrifennu yn uchel, ac mae llwyddiannau’r cyfieithwyr i’w canmol yn fawr.”

Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol, feirniadaeth lawn a darn gan Morgan ar y broses o gyfieithu ar wefannau O’r Pedwar Gwynt a’r wefan hon.

Cynhelir seremoni i wobrwyo Morgan ar faes yr Eisteddfod ym mhabell Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Iau, 8 Awst am 3 o’r gloch.

Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones o sefydliad Mercator Rhyngwladol:

“Nod y gystadleuaeth flynyddol hon yw ceisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o gerdd mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall. Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol, gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.”

Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Polish Cultural Institute, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac O’r Pedwar Gwynt.


Related Posts