Her Gyfieithu 2020: Beirniadaeth Mererid Hopwood

Derbyniais un ar ddeg trosiad i’r Gymraeg o gerdd Zafer Şenocak. Tybed a oedd yr ymynysu wedi rhoi cyfle gwell nag arfer i bobl gnoi Kugelschreiber a chil a mentro arni. Kugelschreiber, gyda llaw, yw un o fy hoff eiriau yn y byd i gyd. Mae dawns y gwahanol batrymau llafariaid rhwng seiniau’r ‘c’ a ‘g’ ac ‘l’ a ‘shr’ a ‘b’ yn creu miwsig persain i’m clust i. A’i ystyr? Beiro! Nid y mwyaf rhamantus o holl eiriau iaith, ond eto mae ‘Kugel’ hefyd yn gallu golygu ‘bydysawd’, a ‘Schreiber’ yw llenor … ac yn sydyn mae rhyw atyniad pellach i’r pedwar sill di-nod. Bid a fo am hynny, roedd derbyn cymaint o fersiynau’n galonogol iawn, a diolch diffuant i bawb am gystadlu. 

Mae Nahaufnahmen yn gerdd heriol ar sawl gwedd, a’r gwaith pendroni’n dechrau gyda’r teitl ei hunan. Gair lluosog yw ‘Nahaufnahmen’. Caiff ei ddefnyddio’n arferol yng nghyd-destun lluniau a ffotograffau, a gellid trosi’r unigol yn Saesneg â’r ymadrodd ‘close-up’. Cynigion Geiriadur yr Academi ar gyfer ‘close-up’ yw ‘golwg agos’, ‘llun agos’, ‘agoslun’ a ‘manylyn’. Amrywiadau ar y rhain a welwyd gan ran fwyaf y cystadleuwyr ond mae’n werth edrych ar y cynigion oedd wedi eu hosgoi, yn eu plith cafwyd: ‘agosiadau agos’, ‘manyldeb’ ‘craffu’ (gan ddau/ddwy) a ‘twll y clo’. Heb fynd gam ymhellach felly, gellir dechrau synhwyro’r amrywiaeth a ddaeth yn y pecyn, a synhwyro hefyd ymagwedd gwahanol y cyfieithwyr at eu crefft. 

Heb fynd i fanylion am ddamcaniaethau cyfieithu, mae’n werth atgoffa’n hunain ar y cychwyn am y rhychwant o opsiynau sy’n wynebu unrhyw un sydd am ddod â cherdd o un iaith i mewn i iaith arall. Ydyw’n gweld y dasg fel un o gyfieithu, o drosi neu o addasu? Ydyw’n osio at ‘gyfieithiad llythrennol’ sy’n cadw’n ffyddlon iawn at y gwreiddiol, neu a ydyw’n ffafrio ‘aralleiriad’, gan barchu’r ystyr ond bod yn barod i fentro ychydig ymhellach o’r broses air-am-air? Neu a ydyw am greu ‘dynwarediad’, lle mae’n teimlo’n ddigon rhydd i gadw at yr ysbrydoliaeth gwreiddiol ond crwydro’n go bell wrth y geiriau. O fewn hyn wedyn, a ydyw’n ffafrio domestigeiddio neu estroneiddio? H.y. a ydyw’n bwriadu cadw blas yr ‘arall’, yr ‘egsotig’ yn y fersiwn newydd, neu a ydyw am osod y darn yn gartrefol ar dir a daear yr iaith darged? Ac ar ben hyn oll, mae’n rhaid i gyfieithydd barddoniaeth, efallai’n fwy na’r un math arall o destun, ddewis rhwng gwerth y sain yntau’r synnwyr yn y dafol dewis. Crefft cyfaddawdu yw’r grefft hon, ond i’m chwaeth i o leiaf, mae angen i’r fersiwn newydd argyhoeddi fel cerdd. Yn sicr, roeddwn i’n chwilio am hynny. I’r sawl a fynno ystyried ymhellach yr heriau hyn, gallaf argymell llyfr Rhianedd Jewell, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu Saunders Lewis, Gwasg Prifysgol Cymru, 2017. 

Gyda hynny o ragymadrodd, cynigiaf sylw byr ar waith pob ymgeisydd mewn ysbryd adeiladol a gwerthfawrogol. Fel y gwelir, mae rhywbeth i’w ganmol yng ngwaith pawb ac am hynny rwyf wedi eu gosod yn nhrefn y wyddor, ac eithrio’r buddugol. 

Cefais flas ar ‘Manylion’, sef cynnig Adeingloff, ac mae nifer o drawiadau da i’w clywed drwyddi draw. Mae’r caniad cyntaf yn gweithio’n dda gydag, e.e. ‘llaid llafar’ am ‘lyrischer Schlamm’ ac mae Adeingloff wedi taro ar yr un ymadrodd â Leika am ‘führen durch Erinnerungslücken’ sef ‘sy’n arwain trwy fylchau’r cof’. Da eto. Rwyf wedi dotio at ‘elorydd eira’ ar ddiwedd y trydydd caniad ac rwy’n ystyried ‘tawdd meddyliau ar flaen tafod’ ar ddechrau caniad pedwar yn llwyddiannus. Serch hyn, mae ambell fefl fel ‘llwyth ar ôl llwyth’ (yn lle ‘lwyth ar ôl llwyth’), ac ymadroddion twmpathog fel ‘coed cwympedig’ neu ‘bydded diolch i’r llygaid’ sy’n gofyn am ychydig bach mwy o sylw. Wedi dweud hynny, mae ôl bardd o gyfieithydd ar waith fan hyn, 

‘Agosiadau Agos’ oedd y teitl a ddewisodd Foxglove. Mae swmp y gerdd gan Foxglove ond nid ei llif yn hollol. Yn fy mhrofiad i, dyma’r math o ddrafft sy’n dod ar ôl mynd drwy’r broses gyntaf honno o grafu pen dros ystyr y geiriau. Mae angen mynd yn ôl at y gwaith nawr, wedi ychydig o saib, a’i ddarllen fel cerdd Gymraeg, er mwyn gallu esmwytho’r darnau sy’n anfwriadol herciog a llyfnhau llinellau lle bo angen. 

Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan un â’r ffugenw Gwyddbwyll, mae ‘Agosluniau’ y cystadleuydd yma yn cynnig ambell symudiad craff. Mae’n trosi’n chwareus, e.e. wrth gynnig ‘ffresni glaw a meiriol Mai’ am ‘Regenfrische und Tauzeit’. Tybed a fyddai ‘gwireb Gwanwyn’ wedi bod yn gryfach nag ‘un o wirebau’r gwanwyn’ wrth drosi ‘Frühlingspruch’? Credaf fod angen edrych eto ar linell gyntaf y seithfed caniad, ond mae’r clo yn gryf: ‘diasgell ŷm ac yn agos eto / i bob llawr’, ac rydym ar dir da gyda’r gwaith hwn. Sehr gut! 

Mae Krankenschwester yn cynnig ‘Agosluniau’ ac mae ei dehongliadau’n ddiddorol a dilys. Fel Foxglove, mae angen ailymweld â’r testun nawr i’w gaboli gan holi’r glust – yn Gymraeg – a yw’r cyfanwaith yn ‘argyhoeddi’. Mae’r atalnodi yn y gwreiddiol yn heriol, ac rwy’n derbyn sut y gellid trosi’r agoriad gyda: ‘Crëwch fi o eiriau/tra ffarweliaf â’r brawddegau lled rymus’. Fodd bynnag, rwy’n sicr y byddai gwrando ar y trosiad, gydag ychydig o bellter amser, yn awgrymu bod angen chwilio am rywbeth amgenach na ‘lled rymus’.  

Un o’r ‘Agosluniau’ yw gwaith Leika, ac mae’r ffugenw’n taro deuddeg gan mai enw gwneuthurwyr camerâu enwog o’r Almaen ydyw. Da! Gwelwn dditectif o gyfieithydd gofalus ar waith fan hyn. Sylwch ar sut y mae’n ymdrin â’r ail linell, lle mae wedi olrhain yr ansoddair ‘halbstark’ y tu hwnt i’r ystyr arwynebol a llythrennol, sef ‘hanner cryf’, ac yn ôl i’r gair a ddefnyddiwyd i ddisgrifio diwylliant grwp o bobl yn eu harddegau a ddaeth yn amlwg yn y 1950au am eu hymddygiad blin ymhlith pethau eraill: ‘rwy’n canu’n iach i frawddegau’r llanc’. Mae gan Leika ambell gyffyrddiad ardderchog fel y trosiad o ‘lyrischer Schlamm’ fel ‘llacs telynegol’. Mae’r cynnig ar ddiwedd y trydydd caniad: ‘yr un sydd angen ei gyfannu ym mhobman’ am ‘überall reparaturbedürftig’ yn ddadlennol. Credaf fod ‘tawelwch croesholi’ yn gweithio’n dda ar gyfer ‘Verhörstille’ ar ddiwedd y pumed caniad, felly hefyd ‘clegyr crwm’ am ‘Felsbrocken’ ar ddiwedd y chweched.  

Gan Lladmerydd cafwyd ymgais dda iawn mewn mannau dan y teitl ‘Craffu’. Er bod gwallau hwnt ac yma, e.e. dydw i ddim yn credu bod ‘a wna’r ddaear yn anghenus’ yn cyfleu ystyr ail bennill y caniad cyntaf, mae llinellau eraill fel ‘ar fadau gwaith afon Tigris’ yn gweithio’n dda iawn, gyda ‘badau gwaith’ yn cyfleu ystyr ‘Schleppkähne’ i’r dim. Cafwyd trawiad llwyddiannus hefyd gyda’r ymadrodd ‘gyff wrth gyff’ (caniad chwech), ac ar ddechrau’r seithfed caniad gyda’r llinell ‘mae rhaffau’n weddill ar ôl codi pob cerdd’, sydd yn nes ati o lawer na’r cynigion gan nifer o’r ymgeiswyr eraill.  

Rhoddodd Messiaen y teitl ‘Manyldeb’ i’r gerdd. Mae nifer o gyffyrddiadau da gan Messiaen, ond nid yw’r ansawdd yn wastad. Gwelir hyn yn y pâr cyntaf o linellau. Mae’r ail yn gryf ond mae angen trwsio’r gyntaf: ‘Yr ydwyf wedi cyfansoddi o’m geiriau/i’r brawddegau trymion rwy’n dweud Adieu!’ Byddai angen rhoi ‘fy nghyfansoddi’ i ddod yn agos at yr ystyr gwreiddiol ac i gyfleu synnwyr yn Gymraeg. Mae diwedd y trydydd caniad yn effeithiol iawn: ‘cyflwr y plygain/a’r plu’, ac rwy’n hoffi’r dyfeisgarwch sydd ar waith wrth ddisgrifio Neruda yn ‘reidio Rolls Royce’ wrth hwylio i lawr afon Tigris. (Noder nad ydym ni’n rhoi’r fannod o flaen enwau afonydd yn y Gymraeg ac eithrio’r Fenai a’r Iorddonen – ac mae sawl ymgeisydd wedi syrthio yn y fagl hon). 

Cafwyd darn o waith mentrus gan Rhosys cochion dan y teitl ‘Llun Agos’, ac rwy’n croesawu cyffyrddiadau fel ‘Ei dragwyddol fythol fygwth’ am ‘ihre bedrohliche Ewigkeit’ yn yr ail ganiad. Fodd bynnag, bydd angen mynd yn ôl i sicrhau bod y gwaith yn dilyn rheolau’r Gymraeg rhag drysu’r darllenydd o ran cenedl enwau a.y.b. 

Fel cyfanwaith, efallai mai gwaith Nomad sydd wedi dod agosaf at drosi ystyron yr Almaeneg gwreiddiol, ac unwaith eto, rhaid pwysleisio mor anodd yw dal yr ystyron hyn, yn rhannol oherwydd arddull ymataliol y bardd. Cerdd ‘noeth’ iawn yw Nahaufnahmen, ac yn hynny o beth mae cryn le i ddehongli’r ystyr sy’n gadael y cyfieithydd mewn lle lletchwith. Eto, mae Nomad yn fodlon mentro. Ystyriwch y cynnig ‘brawddegau rabsgaliwn’ ar gyfer yr ‘halbstarke[n]  Sätzen’. Yn y chweched caniad e.e., mae’r datrysiad: ‘gyda breichiau agored mi gymeron ni’r baich’ yn ddiddorol. Yn sicr, mae’n llifo’n rhwydd, yn Gymreigaidd, ond eto, mae’r gwreiddiol yn awgrymu mai’r breichiau sy’n gwneud y cario, ac felly rywsut yn ein rhyddhau neu yn ein pellhau ‘ni’  o’r weithred. Efallai hefyd y byddai’n well cadw at y ti/dy (fel sydd yn y pedwerydd caniad) yn hytrach na’r ‘eich’ sydd yn y trydydd.  

‘Twll y Clo’ yw teitl ymgais Rhiannon, ac mae rhywun yn gweld yn syth fod yma gyfieithydd hyderus a mentrus ar waith, ac un sy’n bwriadu cynnig cerdd a fydd yn canu yng nghlust y gynulleidfa newydd. Ystyriwch sut y mae’n cyfleu llinellau clo’r trydydd caniad, gan ymwrthod â’r dewis amlwg ‘cwpwrdd’ am ‘Schrank’ a mentro hefyd i gynnig pedair llinell yn lle tair: ‘a dim ond sibrydion/am y plu/yn y cwtsh/dan stâr’ ar gyfer ‘nur ein Gerucht der Zustand / des Gefieders / im Schrank’. Cryn ysbrydoliaeth. Mae’r dewis geiriau ar ddiwedd y pedwerydd caniad o’r ‘cwch gwag/yn hepian ar y lan’ hefyd yn awgrymu bod clust graff gan Rhiannon. Ond weithiau mae mentergarwch yn ormod o dynfa, fel y gwelir, yn fy marn i, yn yr ail linell. Gellir deall sut y mae ‘ffrwyn’ a ‘ffarwel’ wedi denu Rhiannon, ond mae’n go bell o’r gwreiddiol: ‘den hablstarken Sätzen sage ich ade’ (gweler ymgais Leika).  

Mae ‘Craffu’ gan Daearen yn gerdd sy’n argyhoeddi’r glust ei bod hi’n berthynas i’r Gymraeg, ond eto i gyd, yn berthynas rywfaint yn egsotig. Ar ei hyd, dyma’r cyfieithiad wnaeth ddal fy nychymyg yn fwy nag un o’r lleill ac a lwyddodd orau i greu’r teimlad o ‘gerdd’. Eto i gyd, drwy e.e. ddefnyddio’r priflythrennau mewn llefydd na fyddai’r Gymraeg yn eu harddel, mae’r profiad o ddarllen y gerdd yn gadael blas ‘o bant’, rhyw gyffyrddiad sy’n awgrymu newydd-deb a llond llwy de o brofiad dieithr. Rydym wedi gweld beirdd fel Waldo Williams yn gwneud hyn ac yn sicr mae’n fodd o hoelio sylw’r darllenydd. Dylid cofio, fodd bynnag, na fyddai’r orgraff yn effeithio ar wrandawiad wrth reswm. Mae lle i ddadlau dros y dehongli a’r mynegiant mewn ambell fan, ond fel arall, mae’r acen, y llif herciog a’r parabl rywsut neu’i gilydd yn gweithio. (Och! ‘Rywsut neu’i gilydd’ … dyma ymadrodd sy’n datgelu mai celfyddyd nid crefft yw cyfieithu o’r math hwn!)

Llongyfarchiadau mawr i Daearen felly am lwyddo mewn tasg mor anodd, a phleser yw datgan bod y gwaith yn llawn deilwng o’r wobr.