Cyhoeddi enillwyr Her Gyfieithu a Translation Challenge 2020

[Read in English]

Mae’n bleser gennym ddatgelu mai enillwyr yr Her Gyfieithu a Translation Challenge eleni yw Eleoma Bodammer a Grug Muse.

Darllen beirniadaeth a chyfieithiad buddugol yr Her Gyfieithu ar wefan O’r Pedwar Gwynt

Read the Translation Challenge adjudication and winning translation on Poetry Wales website


Bardd, golygydd ac ymchwilydd yw Grug Muse. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn  Y Stamp  a choeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod,gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, sy’n un o brosiectau Ewrop Greadigol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru, ac mae’n ddeiliad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales ac eraill. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Dr Eleoma Bodammer yn academydd Du Cymreig. Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghymru, a dysgodd Almaeneg yn yr ysgol gyfun yng Nghasnewydd. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Manceinion ynghyd â doethuriaeth gydag ysgoloriaethau AHRC a DAAD. Bellach mae’n Ddarllenydd ym Mhrifysgol Caeredin ble mae’n dysgu llenyddiaeth a gramadeg Almaeneg, yn ogystal â chyfieithu llenyddol rhwng Almaeneg a Saesneg. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth yr Almaen yng nghanol y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, cyfieithu llenyddol ac chynrychioli anabledd mewn llenyddiaeth.

Cyflwynir gwobr o £200 yr un i’r ddwy enillydd. Cyhoeddir y cyfieithiadau buddugol ar wefannau O’r Pedwar Gwynt a Poetry Wales a chyflwynir Ffon yr Her Gyfieithu, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, am y cyfieithiad gorau i’r Gymraeg hefyd i Grug.

Yr her eleni oedd cyfieithu dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd Twrcaidd Zafer Şenocak o’r Almaeneg. Mae Zafer Şenocak yn byw ym Merlin, ac mae wedi dod yn llais blaenllaw yn nhrafodaethau’r Almaen ar amlddiwyllianedd, hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol, ac yn gyfryngwr rhwng diwylliannau Twrcaidd ac Almaeneg.

Daeth 11 ymgais i law beirniad yr Her Gyfieithu, Mererid Hopwood, a dywedodd mai ymgais Grug oedd y “cyfieithiad wnaeth ddal fy nychymyg yn fwy nag un o’r lleill ac a lwyddodd orau i greu’r teimlad o ‘gerdd’.”

Karen Leeder, awdur, cyfieithydd ac academydd sy’n dysgu’r Almaeneg yng Ngholeg Newydd Prifysgol Rhydychen, oedd yn beirniadu’r Translation Challenge. Dywedodd bod cyfieithiad Eleoma yn sefyll allan ar unwaith, yn dilyn yr iaith droellog yn berffaith ac yn llwyddo i ddal y naws idiomatig.

Cynhelir digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant Grug ac Eleoma ar 30 Medi, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Cliciwch yma i gofrestru.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales a Goethe-Institut.


Related Posts