Ar Ddiwrnod Ewrop, mae Cyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau yn dathlu cydweithrediad newydd â Goethe-Institut.
Mae’r Goethe-Institut, sefydliad sy’n hyrwyddo gwybodaeth o’r Almaeneg dramorl ac yn meithrin cysylltiadau diwylliannol yn rhyngwladol, yn un o’r sefydliadau sy’n cefnogi cystadlaeth flynyddol yr Her Gyfieithu.
Yr her eleni yw cyfieithu dilyniant o gerddi gan y bardd adnabyddus o dras Twrcaidd sy’n ysgrifennu mewn Almaeneg, Zafer Şenocak, o’r Almaeneg i’r Gymraeg neu i’r Saesneg. Mae’r dilyniant o gerddi, ynghyd â manylion ar sut i gystadlu, i’w gweld ar wefan Wales PEN Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Goethe-Institut Llundain:
“Rydyn ni yn Goethe-Institut Llundain wrth ein boddau yn cefnogi Her Gyfieithu 2020. Mae’r wobr eleni nid yn unig yn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i gyfieithwyr llenyddol, ond hefyd yn cydnabod diwylliant llenyddol amrywiol yr Almaen. Yn benodol, rydyn ni’n falch o gydweithio gyda’r bartneriaeth hon yn ei hymdrechion i ddod â llenyddiaeth wedi ei chyfieithu i gynulleidfaoedd newydd o siaradwyr Cymraeg.”
Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones ar ran y bartneriaeth:
“Nod y gystadleuaeth flynyddol hon yw ceisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o gerdd mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall.
Rydym yn dewis iaith bob blwyddyn i’w chyfieithu ag iddi berthnasedd penodol. Dros y tair blynedd ddiwethaf, rydym wedi dewis ieithoedd nad oeddent yn cael eu dysgu mewn ysgolion yng Nghymru – Catalaneg, Twrceg a Phwyleg – er mwyn annog cydweithio rhwng siaradwyr yr ieithoedd hynny a chyfieithwyr yng Nghymru. Eleni, penderfynom ddewis iaith sydd yn cael ei dysgu yn y system addysg yng Nghymru.
Roeddem hefyd yn awyddus i ddewis bardd allai gynrychioli Ewrop yn ei hamrywiaeth. Mae Zafer Şenocak o dras Twrceg ac yn ysgrifennu yn Almaeneg.
Credwn hefyd fod yr Almaen yn arwain y ffordd gyda’i buddsoddiad yn y sector greadigol a’i pholisiau blaengar i gefnogi ffoaduriaid.
Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i gydweithio gyda’n cyfeillion yng ngwledydd Ewrop, ac felly rydym yn falch iawn o’r cyfle hwn i gydweithio gyda’r Goethe-Institut.”
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 22 Mai 2020, y beirniaid eleni yw Mererid Hopwood (i’r Gymraeg) a Karen Leeder (i’r Saesneg), a chyflwynir gwobr o £200 i’r enillwyr yn y ddwy iaith. Cyhoeddir y cyfieithiadau buddugol ar wefannau O’r Pedwar Gwynt a Poetry Wales ac fe gyflwynir y Ffon Farddol a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ar gyfer y cyfieithiad gorau i’r Gymraeg.
Trefnir y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales a Goethe-Institut.