Diwrnod Awduron dan Glo – 15 Tachwedd
Ar Ddiwrnod Awduron dan Glo, rydym ni yn PEN Cymru yn cydsefyll ag awduron sydd wedi eu carcharu am eu gwaith. Fel bob blwyddyn, ar 15 Tachwedd, Diwrnod Awduron Dan Glo, mae PEN Rhyngwladol yn galw am weithredu rhyngwladol brys i amddiffyn awduron a newyddiadurwyr ledled y byd, sy’n cael eu targedu fwyfwy ar gyfer eu gwaith mynegiant rhydd heddychlon. PEN Cymru yw canolfan Gymreig PEN Rhyngwladol sy’n hyrwyddo llenyddiaeth, yn amddiffyn rhyddid mynegiant ac yn ymgyrchu ar ran awduron o bob cwr o’r byd sy’n cael eu herlid a’u carcharu oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei ysgrifennu. Mae diffiniad PEN o awdur yn cynnwys pob math o ysgrifennu – blogio, newyddiaduraeth, barddoniaeth, dramâu, rhyddiaith ac ati. Eleni, rydym yn galw am weithredu rhyngwladol brys i ryddhau ac amddiffyn Iryna Danylovych (Wcráin / Crimea a feddiannwyd ganddo), María Cristina Garrido Rodríguez (Cuba), Soulaiman Raissouni (Moroco) a Go Sherab Gyatso (China- Tibet), a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn teimlo undod a chefnogaeth. Mae cannoedd o awduron yn y carchar heddiw ar draws y byd, ac mae nifer ohonynt yn wynebu erledigaeth oherwydd bod yr hyn maen nhw’n ei fynegi yn cythruddo’r awdurdodau, yn digio’r bobl bwerus ac yn anesmwytho’r llywodraeth. Awduron yw’r bobl sy’n cadw cydwybod o fewn cymdeithas; mae’n rhaid iddynt fod yn rhydd ac nid yn y carchar y mae eu lle. Ar y diwrnod hwn, bob blwyddyn, mae cymuned PEN i gyd yn mynegi mewn un llais ein bod ni am barhau i frwydro dros ryddid pob awdur, ble bynnag yn y byd, sy’n cael ei g/wahardd rhag gwneud ei g/waith. Mae ymuno â PEN Cymru yn gyfle i ysgrifenwyr yng Nghymru i ymuno â mudiad rhyngwladol ac i berthyn i gymuned fyd-eang sy’n brwydro dros ryddid mynegiant. Mae aelodau’n derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau a thrafodaethau gydag awduron rhyngwladol ac ymgyrchwyr ac yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ymgyrchoedd PEN yng Nghymru a thu hwnt. Mae aelodaeth yn agored i ysgrifenwyr o bob math, boed yn llenorion, yn newyddiadurwyr, yn gyfieithwyr, yn olygyddion, yn flogwyr neu yn fyfyrwyr ysgrifennu creadigol. Gellir ymaelodi â PEN Cymru am £2 neu £4 y mis drwy glicio fan hyn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth Wales PEN Cymru ar walespencymru@gmail.com. |
Day of the Imprisoned Writer – 15 November
On the Day of the Imprisoned Writer, Wales PEN Cymru stand in solidarity with writers who have been imprisoned for their work. As every year, on 15 November, the Day of the Imprisoned Writer, PEN International calls for urgent international action to protect writers and journalists across the globe, who increasingly find themselves targeted for their peaceful free expression work. Wales PEN Cymru is the Welsh centre of PEN International promoting literature, defending freedom of expression and campaigning on behalf of writers around the world who are persecuted and imprisoned because of what they have written. PEN’s definition of writer includes all forms of writing, from blogging and journalism to poetry plays and prose etc This year, we call for urgent international action to release and protect Iryna Danylovych (Ukraine/occupied Crimea), María Cristina Garrido Rodríguez (Cuba), Soulaiman Raissouni (Morocco) and Go Sherab Gyatso (China- Tibet), and ensure that they and their families feel solidarity and support. Around the world, hundreds of writers are in jail today, and many more face intimidation and persecution because what they express upsets the authorities, offends the powerful, and unnerves governments. Writers are the conscience-keepers of society; they must remain free. On this day, every year, the entire PEN community says in one voice that we will continue to fight for freedom for any writer, anywhere in the world, who is prevented from doing his or her work. Becoming a member of Wales PEN Cymru is an opportunity for Welsh writers to join an International organisation and belong to a world community fighting for free expression. Members will receive invitations to events and debates with international writers and activists and be encouraged to take part in PEN campaigns in Wales and further afield. Membership is open to writers of all kind: authors, poets, journalists, translators, editors, bloggers and students of creative writing. You can become a member of Wales PEN Cymru for £2 or £4 a month by clicking here. For more information contact Wales PEN Cymru secretariat on walespencymru@gmail.com. |