Hafan | Home

Mae Wales PEN Cymru yn un o’r 130 o ganolfannau PEN mewn dros 9o wledydd ar draws y byd, ac mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, prif lais llenyddiaeth ledled y byd.

Daeth Wales PEN Cymru yn ganolfan PEN swyddogol yn 99eg Cyngres Rhyngwladol PEN yn Bishkek, Kyrgyzstan, ym mis Hydref 2014. Caiff ei lywodraethu gan ei Gyfansoddiad a Siartr PEN.

Mae PEN yn hybu llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant. Mae’n ymgyrchu ar ran ysgrifenwyr o bob cwr y byd sy’n cael eu herlid, eu carcharu, eu poenydio neu’n dioddef o ymosodiadau oherwydd eu gwaith ysgrifennu. Mae iddo bwyllgorau yn cynrychioli ysgrifenwyr yn y carchar, hawliau ieithyddol a chyfieithu, merched sy’n ysgrifennu ynghyd â phwyllgor heddwch.

Gweler aelodau ein Pwyllgor Gwaith.

Mae canolfannau PEN Lloegr, Cymru, yr Alban ac Iwerddon  yn pryderu’n fawr am y cynnydd mewn trais yn erbyn mewnfudwyr a chymunedau  ymylol, a’r rheiny ar  y cyrion yn ein hynysoedd  ac sydd wedi ei arwain gan gam wybodaeth neu wybodaeth ffug. Mae hyn yn rhan  o’r cynnydd ehangach gan y rhai hynny sy’n dymuno dadwneud hawliau sifil  a enillwyd – gan ddefnyddio dulliau sy’n gwbl groes i Siarter PEN. Yn unol â’r Siarter rydym yn galw ar  yr holl aelodau  i wneud ‘eu gorau i ddileu pob casineb’ ac ‘ i  wrthwynebu’r drwg  a ddaw o’r  wasg rydd yn null cyhoeddiadau celwyddog,, anwiredd bwriadol, a chamliwio ffeithiau  a hynny  at ddibenion gwleidyddol a  phersonol’. Yr ydym yn sefyll gyda’r rhai hynny sy’n cael eu targedu a gyda’r holl bobl  sydd wedi  dioddef  o effaith y fath drais.’

Llywydd PEN Cymru: Menna Elfyn  – Cadeirydd PEN Cymru: Dominic Williams

Wales PEN Cymru is one of the 130 PEN centres in more than 90 countries around the world. It is affiliated to PEN International, the leading voice of writers worldwide. PEN promotes literature, literacy and linguistic rights, supports writers at risk and defends freedom of expression.

Wales PEN Cymru was officially recognised as a PEN Centre at the 99th PEN International Congress in Bishkek, Kyrgyzstan, in October 2014.
It is governed by its Constitution and the PEN Charter.

PEN promotes literature and defends freedom of expression. It campaigns on behalf of writers around the world who are persecuted, imprisoned, harassed and attacked for what they have written. It has committees representing writers in prison, translation and linguistic rights, women writers and a peace committee. See our Executive Board members.

The PEN Centres of England, Wales, Scotland, and Ireland are deeply alarmed by the rise in violence against migrant and other marginalised communities on these islands, driven by mis- and dis-information. This is part of a wider rise of those who seek to undo our hard-won civic rights using methods which directly contravene the PEN Charter. In accordance with the charter we call on all members to “’do their utmost to dispel all hatreds”’ and to “’oppose such evils of a free press as mendacious publication, deliberate falsehood and distortion of facts for political and personal ends”’. We are in solidarity with those targeted and with all who are affected by such violence.

 


Cerddi Heddwch | Peace Poems