Ar y diwrnod pan gofiwn marw’r bardd Hedd Wyn dyma dynnu sylw at dri digwyddiad arbennig a drefnir ganddom ni dros yr wythnos nesaf, i nodi 10 mlynedd ers sefydlu PEN Cymru, sef digwyddiadau ‘Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw…’

Daw’r teitl o’r gerdd ‘Rhyfel ‘ gan Hedd Wyn wrth gwrs a bydd pob digwyddiad yn cynnwys darlleniadau a thrafodaeth ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth yng nghwmni awduron, beirdd ac aelodau Cymdeithas y Cymod sydd wedi ein cynorthwyo gyda threfnu’r digwyddiadau.

Gyda chroeso i bawb, cynhelir  y digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg gyda darlleniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim diolch i’r lleoliadau ac i gefnogaeth Cronfa Ysbydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru. Croesewir cyfraniadau at PEN Cymru a Chymdeithas Y Cymod

31/07/2024, 7:30pm

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

Noson yng nghwmni Sian Northey, Ifor ap Glyn a Mike Parker.

.

 

01/08/2024, 7:30pm

Y Cŵps – Aberystwyth

Yng nghwmni Sian Howys, bydd Hywel Griffiths, Eluned Gramich a Meic Birtwistle.

03/08/2024, 3pm

Y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd

Mererid Hopwood fydd yn cadeirio’r digwyddiad yng nghwmni Rhun Dafydd, Menna Elfyn, Ifor ap Glyn, Casi Wyn ac eraill

Dewch yn llu!

 

 

 

On the day when we remember the death of Hedd Wyn in the first World War, we present three events we have organised to note 10 years of PEN Cymru, under the title which is a quotation from his poem ‘Rhyfel”.

‘Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw…’ translates as The sound of the fighting is in our ears and each event will include readings and discussions about the value and importance of literature about war, peace and persecution in the company of Welsh writers, poets and members of Cymdeithas y Cymod, who have assisted with the organising of these events.

All are welcome, the events will be held in Welsh with Welsh and English readings.

The events are free to attend thanks to the venues and support from the Literature Wales’ Inspiring Communities Fund. We welcome contributions towards PEN Cymru Wales and Cymdeithas Y Cymod.

31/07/2024, 7:30pm

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

An evening with Sian Northey, Ifor ap Glyn and Mike Parker. There will be

 

 

01/08/2024, 7:30pm

The Coopers Arms – Aberystwyth

Chairing the event will be Sian Howys with acclaimed writers Hywel Griffiths, Eluned Gramich and Meic Birtwistle

 

03/08/2024, 3pm

Y Babell Lên – The Literary Pavilion, Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd

Mererid Hopwood will be chairing the event and discussions with Rhun Dafydd, Menna Elfyn, Ifor ap Glyn, Casi Wyn and others

Free with an entrance ticket to the Eisteddfod. Welcome to all!

 

 

 

 

Related Posts