Ni welwyd erioed efallai fwy o angen lleisiau cryf mewn barddoniaeth, nac ychwaith fwy o angen cyfieithu, yng Nghymru ac yng Ngwlad Pwyl: rhwng PiS a Brexit, mae gwleidyddiaeth y naill wlad a’r llall yn beryglus o agos at y dibyn, dibyn o arwahanrwydd peryglus, ac mae angen rhannu profiadau a rhannu lleisiau.
Dyma’r Her Gyfieithu, felly, yn cynnig ffisig arbennig iawn i’r cyflwr hwn o arwahanrwydd: nid yn unig fod y canllawiau yn nodi’n echblyg y croesewid cyfieithiadau ar y cyd – a rhai torfol – ond gwahoddwyd y cyfieithydd di-Bwyleg i fynd am dro i gaffi neu dafarn i gael hyd i gyfaill newydd i’w holi ynghylch cyfrinachau geiriau’r cerddi. Dyma gyfieithu fel sbardun i gyflwyniad, i gyfathrach ac i gyfeillach – yn weithred gymunedol i greu cymuned newydd. Anffodus braidd oedd mai nifer weddol fach o gynigion a ddaeth i law, ond roedd safon uchel pob un eto’n galonogol.
Yn ogystal â’r ddwy gerdd wreiddiol, ‘Szuflada’ a ‘Relentlessly Craving’ gan Julia Fiedorczuk, rhoddwyd gerbron y cyfieithwyr ddau set o gyfieithiadau i’w hystyried: un i’r Saesneg ac un i’r Sbaeneg. Arfer digon cyffredin – a digon dadleuol – yw cyfieithu cyfryngol sy’n defnyddio lingua franca fel pont: yr her yw peidio â gadael i’r bont droi’n dynfaen, gan ieuo’r cyfieithiad i’r iaith anghywir. Rydym yn hen gyfarwydd â’r ystod o bosibiliadau sydd rhwng (1) creu cerdd gartrefol Gymraeg o lais estron y gwreiddiol, a (2) gadael i’r Gymraeg leisio’n estron fel y gwreiddiol, ond ni waeth pa ddewis a wneir, rhaid yn gyntaf fedru clywed y llais. Yn y gystadleuaeth hon, ni theimlais fod y mwyafrif o’r cyfieithwyr wedi treulio digon o amser yn y caffi neu’r dafarn, yn cael deall gan Bwyl neu Bwyles yr hyn sydd y tu ôl i’r seiniau. Serch hynny, rhaid nodi bod safon yr ysgrifennu yn uchel, ac mae llwyddiannau’r cyfieithwyr i’w canmol yn fawr. Ac nid pawb arhosodd gartref.
Canolog i waith Julia Fiedorczuk yw ei defnydd o eirfaoedd o amryw feysydd, ac yn enwedig efallai’r gwyddonol, er mwyn cyfleu sioc o weledigaeth. Yng ngeiriau’r bardd, ‘mae fy meistri […] yn cynnwys nid yn unig nifer (fawr!) o feirdd, ond gwyddonwyr yn ogystal, gan fod rhaid i wyddonwyr hefyd edrych ar y byd fel petaent yn ei weld am y tro cyntaf.’ Un her i’r cyfieithwyr oedd ymwrando ar yr amrywiadau cywair yn y cerddi ac ystyried a ddylid – a sut y dylid – eu cyfleu yn Gymraeg. Nid hawdd hyn bob tro: mae’r gair anarferol o Ladinaidd, ‘ekwinokcjum’ yn taro’r glust ar unwaith mewn modd na all ‘equinox’ nac ‘equinoccio’. ‘Cyhydnos’ yw’r ‘ystyr’, ond nid hwnnw efallai yw’r gair ‘cywir’ (er mai ‘cyhydnos’ a gafwyd ymhob cyfieithiad).
Dewisodd ein cyfieithwyr bron bob un lyfnhau’r dweud yn eu cyfieithiadau, bron fel petai’r nod oedd creu cerdd ‘bert’ – cerdd ‘farddonol’. Weithiau ceir gormod o’r ‘barddonol’ mewn barddoniaeth. Nid yw llais Fiedorczuk o reidrwydd yn hardd. Wele’r llinell hir (a braidd yn lletchwith) ‘Stada nieżyjących zwierząt, pożywiające się dawno wymarłym gatunkiem trawy’. Cafodd hyn ei symleiddio gan hanner ein cyfieithwyr, a hwythau’n hepgor y gair ‘gatun[ek]’ (‘rhywogaeth’), a’r cynodiadau gwyddonol-epistemolegol hollbwysig o gyfrif a chategoreiddio (mae ‘cyfrif’ yn y gerdd hon a’r ail gerdd yn cyfrif am lawer). Eto, sylwodd Gwenynen a Spleen ar bwysigrwydd y ‘rhywogaeth’, a Spleen hefyd welodd y gair allweddol ar ddechrau’r llinell hon: ‘nieżyjących’. ‘Marw’ sydd gan bawb arall, ond mae Spleen wedi gweld arwyddocâd y negydd ‘nie-’, a rhydd inni ‘anifeiliaid difywyd’. Hollbwysig i’r gerdd hon yw amwysedd y berthynas rhwng presenoldebau ac absenoldebau, rhwng gorffennol a phresennol, rhwng bywyd a darfodedigaeth, a rhwng amryw fathau o farwolaethau nad ydynt yn peri diflannu’n llwyr. Spleen a’r Badwr sy’n deall y pwynt pwysig yn y llinell olaf – er gwaetha’r cyfieithiad Saesneg – nad yw’r gerdd yn mynnu bod y trigolion a welir yn y lluniau ‘wedi mynd’. Er bod y tai ‘wedi’u bwyta gan ddŵr a gwynt’ (Spleen), mae cof, a chelf, a cherdd, yn drech.
Problem fawr i’r cyfieithwyr oll yn achos y gerdd gyntaf oedd rhywedd yn y llais. Yn ‘Jej pamiątki’ yn llinell 5, ‘jej’, yw’r ‘ei’ benywaidd. Mae modd deall hyn fel cyfeiriad at y ‘szuflada’, y drôr, sydd yn enw benywaidd yn Bwyleg: y drôr biau’r cofroddion. Ond yn ‘ei gofroddion’ collir yr awgrym cryf mai trugareddau merch sydd yma. Yn Saesneg mae ‘Its keepsakes’ yn cyfeirio’n echblyg ac yn anniddorol at y ‘drawer’, tra mae’r Sbaeneg yn creu hyd yn oed fwy o amwysedd, gyda ‘Sus recuerdos’. Er cystal ‘Yr hen drugareddau’ (Spleen) neu ‘Dail y cofio’ (Pen-hydd), trueni na phenderfynodd neb ychwanegu’r fannod at deitl y gerdd: wedi’r cyfan, nid yw ‘y ddrôr’ yn anghywir chwaith. Yn Bwyleg, nid oes na bannod penodol nac amhenodol.
‘B.G.’ yr ail gerdd yw Björk Guðmundsdóttir, ac o’i chân ‘Wanderlust’ y daw’r geiriau ‘Relentlessly Craving’. Da oedd gweld y mwyafrif yn ymatal rhag cyfieithu’r teitl i’r Gymraeg: Saesneg yw’r gwreiddiol a dylai aros felly. Ar wahân i hyn, efallai nad yw cywair ac ieithwedd yn peri problemau enfawr yn y gerdd hon: yr her yw cyfleu taerineb y syniadau, y syniadaeth a’r llais. Dewisodd y mwyafrif gyfleu’r cyfarchol (‘wierszu, wierszu’) drwy ddefnyddio’r treiglad meddal yn unig: ‘gerdd, gerdd’. Mae Spleen yn mynd i gyfeiriad tynerach: ‘fy ngherdd, fy ngherdd’, sydd efallai’n fwy cydnaws â’r awyrgylch peryglus o gorfforol.
Drysir yma eto’r ffiniau rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng crefydd a gwyddoniaeth, rhwng mater a syniad: dyma farddoniaeth gwantwm lle mae pob sibrwd yn gallu troi’n ‘fala uderzeniowa’, ac mae’r ‘datod parhaus’ (Badwr), y ‘dadfeiliad diddiwedd’ (Gwenynen) neu’r ‘pydru parhaol [yn] amod ar bob cyfuno’ (Spleen). Oedwn i ystyried hyn. ‘Shock wave’ yw ‘fala uderzeniowa’ yn Saesneg – ‘onda de choque’ yn Sbaeneg – sef ton sy’n symud trwy gyfrwng yn gyflymach na sŵn. ‘[E]rgyd uwchsonig’ a gafwyd gan Spleen, a ‘thrawiad bom’ gan Badwr felly, ond tybed ai ‘ergyd’ neu ‘[d]rawiad’ yw hanfod ‘ton’, sy’n cludo egni heb o reidrwydd symud mas? ‘[S]iocdon’ a gafwyd gan Pen-hydd a Gwenynen, i geisio cyfleu’r gerdd – y llais – sy’n mynd yn gyflymach nag ef (neu hi) ei hun. Cyfieithwyd ‘warun[ek]’ yn aml fel ‘cyflwr’, gan ddilyn, mae’n debyg, ‘condition’ y Saesneg neu ‘condición’ y Sbaeneg, heb sylweddoli mai’r ystyr arall sy’n gywir yma: nid ‘cyflwr’ ond ‘amod’. (Chwarae teg i Gwenynen am ddweud ‘sail’.)
Erbyn pwyso a mesur am yn hir, fe’m cefais fy hun yn methu â dewis rhwng dau o’r cyfieithwyr: Spleen a Badwr. Gwyddwn fod Spleen mewn un ffordd amlwg yn rhagori ar Badwr: roedd wedi treulio digon o amser yn y caffi, ac roedd wedi deall y Bwyleg yn well mewn sawl man. Ac eto, roedd rhywbeth yn llais Badwr a’m denodd at ei waith ef, ac roedd yntau wedi llwyddo yn amlach na pheidio i ddewis yr ystyron ‘cywir’ hefyd. Hoffwn fod wedi torri’r ffon yn ddwy, ond fe’i henillir eleni gan Badwr, gydag ymddiheuriadau i Spleen: wybacz!
[Trafodwyd â’r enillydd y pwyntiau a godwyd wrth feirniadu’r gystadleuaeth, a chafodd gyfle cyn cyhoeddi i addasu ei gerdd yn ôl y sylwadau hynny.]
Dr. Aled Llion Jones