Emyr Humphreys – yn gant oed yn 2019
“Emyr Humphreys , prif nofelydd y Gymru fodern yw’r olaf o’r genhedlaeth arwrol honno o awduron degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif a gysegrodd eu dawn i wasanaethu’r genedl Gymreig” – Yr Athro M. Wynn Thomas
“Prif ddehonglydd bywyd Cymru” – R.S Thomas
Mae’n anodd meddwl am awdur arall yng Nghymru sydd wedi gwneud mwy o gyfraniad dros y ddwy iaith nag ef; yn gyntaf wrth gwrs, gyda’r gweithiau Saesneg: ei nofelau, ei ddramâu, ei gerddi a’i sgriptiau.
Pa ffordd well felly wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed na’i gydnabod drwy sefydlu gwobr arbennig yn enw PEN Cymru, sefydliad sydd fel Emyr ei hun wedi gweithio’n ddygn dros ryddid mynegiant yn ogystal â hyrwyddo llenyddiaeth ymhob gwlad.
Gwobr fydd hon a gaiff ei rhoi i’r enillwyr mewn cystadleuaeth Gymraeg a Saesneg, a hynny i’r darn llenyddol neu newyddiadurol mwyaf beiddgar ac arloesol am Gymru a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2019, boed yn erthygl, ysgrif, blog neu lên-ddull arall. Aelodau o PEN Cymru fydd yn enwebu’r goreuon ar ddiwedd y flwyddyn ym mis Tachwedd cyn i dri beirniad, yn y ddwy iaith, ddewis y darnau buddugol o’r rhestr hir .
Gyda hyn mewn golwg, bydd angen chwilio am nawdd fel y gellir cyflwyno rhodd o £1000 yr un i’r ddau enillydd.
Gobeithir cynnal y seremoni yn Oriel Môn fel ffordd o ddathlu gwaith newydd yn ogystal â chydnabod cyfraniad aruthrol Emyr i lenyddiaeth, i Gymru ac Ynys Môn.
Gofynnir felly am swm o £3000 i gyd: £2000 o bunnoedd ar gyfer y gwobrau yn ogystal â £1000 ychwanegol ar gyfer costau gweinyddu a chyhoeddusrwydd pellach.
Am ragor o wybodaeth neu eich bod am noddi’r fenter hon, gweler y ddolen isod, neu cysylltwch â walespencymru@gmail.com
Gan obeithio yr ystyriwch y cais yn garedig,
Menna Elfyn
Llywydd Wales PEN Cymru
Nodiadau ychwanegol
Ganed Emyr Humphreys ym Mhrestatyn yng ngogledd Cymru yn 1919 ac ymgartrefodd yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle mae’n dal i fyw. Y mae’n un o nofelwyr pwysicaf Cymru ac un o nofelwyr pwysicaf Ewrop. Wedi iddo fwrw sawl cyfnod tramor yn gweithio ym maes cymorth dyngarol, cafodd gyfnod yn gynhyrchydd theatr, ac yn ddarlithydd, cyn rhoi’i fryd ar ysgrifennu yn llawn amser. Mae’n awdur dros ugain o nofelau, ac fe’i anrhydeddwyd â sawl gwobr: Somerset Maugham Award, Hawthornden Prize a gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru nifer o weithiau.
Cyhoeddodd yn gyson yn y ddwy iaith ac ymddangosodd ei gyfrol o farddoniaeth newydd yn 2018, Shards of Light, gan Wasg Prifysgol Cymru. Ymddangosodd llyfr o feirniadaeth lenyddol yn dwyn y teitl Emyr Humphreys hefyd yn 2018 gan yr Athro M. Wynn Thomas yn y gyfres Writers of Wales, Gwasg Prifysgol Cymru.
Detholwyd A Toy Epic (1958) ar gyfer rhestr clasuron modern Schwob. Bydd y nofel ymysg cyfrolau a gaiff eu hyrwyddo gan Schwob i gyhoeddwyr ar draws Ewrop sy’n debyg o fod â diddordeb mewn prynu hawliau cyfieithu. Enwebwyd a dewiswyd y nofel fel y clasur gorau Saesneg o lenyddiaeth am Gymru gan y beirniad Gary Raymond yn 2016. Yn yr Observer dywedodd un beirniad llenyddol amdano: ‘The sort of writer who would be in the running for a Nobel Prize if Wales had lobbyists in Stockholm.’