This is a new Welsh translation of the Girona Manifesto.
Daw PEN Rhyngwladol ag awduron y byd at ei gilydd. Cyhoeddwyd Datganiad Byd-eang Hawliau Ieithyddol yn Barcelona yn 1996 gan Bwyllgor PEN Rhyngwladol ar Gyfieithu a Hawliau Ieithyddol. Datblygwyd Maniffesto Girona (Mai 2011) gan yr un Pwyllgor ac fe’i pasiwyd gan Gynulliad Cynrychiolwyr PEN Rhyngwladol yn y 77fed Cyngres (Medi 2011). Mae’n datgan deg egwyddor graidd PEN Rhyngwladol ar hawliau ieithyddol.
- Mae amrywiaeth ieithyddol yn dreftadaeth fyd-eang y dylid ei werthfawrogi a’i ddiogelu.
- Mae parch at bob iaith ac at bob diwylliant yn hanfodol er mwyn creu a chynnal deialog a heddwch yn y byd.
- Mae unigolion yn dysgu siarad yng nghanol cymuned sy’n rhoi bywyd, iaith, diwylliant a hunaniaeth i bob un.
- Nid cyfryngau ar gyfer cyfathrebu yn unig yw ieithoedd a gwahanol ffyrdd o siarad; maent hefyd yn creu amgylchfyd ble mae pobl yn tyfu a lle mae diwylliannau’n cael eu datblygu.
- Mae gan bob cymuned ieithyddol yr hawl i’w hiaith gael ei defnyddio fel iaith swyddogol yn ei thiriogaeth.
- Rhaid i addysg ysgol gyfrannu at wella statws yr iaith a siaredir gan gymuned ieithyddol y diriogaeth.
- Mae’n ddymunol i ddinasyddion fod â gwybodaeth gyffredinol o wahanol ieithoedd, gan fod hyn yn hybu empathi a meddwl deallusol agored, sy’n cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o’u hiaith ein hunain.
- Mae cyfieithu testunau, yn enwedig gweithiau mawr gwahanol ddiwylliannau, yn elfen bwysig iawn yn y broses angenrheidiol o well dealltwriaeth a pharch rhwng pobl.
- Mae’r cyfryngau’n llefarwyr breintiedig all wneud i amrywiaeth ieithyddol weithio a chynyddu ei statws yn effeithiol a thrwyadl.
- Rhaid i’r Cenhedloedd Unedig gydnabod yr hawl i ddefnyddio a diogelu ein hiaith ein hunain fel un o’r hawliau dynol sylfaenol.
Mae PEN Rhyngwladol yn hyrwyddo llenyddiaeth a rhyddid mynegiant ac yn gweithredu’n unol â Siarter PEN a’r egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori ynddi – sef cael rhannu syniadau yn ddirwystr oddi mewn i bob cenedl a rhwng yr holl genhedloedd. Fe’i sefydlwyd yn Llundain yn 1921, ac mae’n gyfrifol am gysylltu cymuned ryngwladol o awduron. Mae’n fforwm lle caiff awduron ddod at ei gilydd yn rhydd i drafod eu gwaith. Mae hefyd yn lladmerydd dros awduron y mae eu lleisiau yn cael eu hatal yn eu gwledydd eu hunain. Mae PEN, drwy gyfrwng ei ganolfannau, yn gweithio ar bob un o’r pum cyfandir, gyda 146 o ganolfannau mewn 102 o wladwriaethau.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â Maniffesto Girona ar Hawliau Ieithyddol, gweler y dudalen hon.