in ár gcroíthe go deo’ Yn Ein Calonnau Am Byth Dyma’r geiriau yn yr iaith Wyddeleg yr oedd teulu’r diweddar Margaret Keanne yn dymuno eu rhoi ar ei charreg fedd yn Coventry. Gwrthod caniatáu’r cais hwnnw wnaeth Llys Eglwys Loegr. Mae Wales PEN Cymru yn ymuno â PEN na hÉireann, PEN Iwerddon, i gefnogi apêl y teulu i newid y penderfyniad hwn. Roedd yr iaith Wyddeleg yn agos iawn at ei galon Margaret Keane ac yn bwysig iddi o ran ei hunaniaeth. Mae Hawliau ieithyddol wrth wraidd holl ymgyrchu PEN drwy’r byd, ac mae Maniffesto Girona PEN, a fabwysiadwyd gan PEN yn rhyngwladol ddeg mlynedd yn union yn ôl, yn nodi fod parch at bob iaith a diwylliant yn hanfodol wrth greu a chynnal dialog a heddwch drwy’r byd. Gofynnwn felly ar i Lys Eglwys Loegr ailystyried y penderfyniad a chaniatáu’r geiriau yn yr iaith Wyddeleg heb fynnu cyfieithiad ‘in ár gcroíthe go deo’ yn ein calonnau am byth ar ei charreg fedd.
|
in ár gcroíthe go deo’ In Our Hearts Forever These are the words, in the Irish language that the family of the late Margaret Keane wished to have inscribed on her gravestone in Coventry. The Church of England’s Ecclesiastical Court refused to allow this. Wales PEN Cymru joins PEN na hÉireann, Irish PEN, in supporting the Family’s Appeal to change this decision. The Irish language was very close to Margaret Keane’s heart and an important part of her identity. Linguistic Rights are at the core of all PEN campaigns worldwide. The Girona Manifesto, adopted by PEN International exactly ten years ago, states that ‘respect for all languages and cultures is fundamental to the process of constructing and maintaining dialogue and peace in the world.’ We ask the Church of England’s Ecclesiastical Court to reconsider the decision and to allow the words, in Irish, without insisting on a translation, ‘in ár gcroíthe go deo’, in our hearts forever, on the gravestone. |