Mae Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yn ddathliad blynyddol i hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol
Mae’r Diwrnod yn gyfle i hyrwyddo amlieithrwydd, ac i gydnabod ac amddiffyn yr hawliau dynol sydd gan leiafrifoedd a phobl frodorol yng nghyd-destun iaith.
Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO fod 21 Chwefror yn Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith, ac fe’i nodir yn flynyddol yn rhyngwladol ers 21 Chwefror 2000.
Ym Mangladesh, 21 Chwefror yw’r dyddiad pan ymladdodd Bangladeshiaid am gydnabyddiaeth i’r iaith Bangla, a dyna oedd y sbardun i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith.
Darllen rhagor ar wefan UNESCO.
Datganiad gan Dr Fernand de Varennes, Rapporteur Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar faterion lleiafrifol
I lawer ohonom mae iaith yn rhan gwbl allweddol o graidd ein hunaniaeth ac mae hon yn nodwedd unigryw o ddynol ryw y maen rhaid i ni ei dathlu ac ymhyfrydu ynddi, meddai arbenigwyr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig.
“Dyma yw’r ddolen holl bwysig at ein gorffennol, y prif allwedd i’n diwylliant a dull hanfodol o gyfathrebu a rhannu ein gwybodaeth, ein cof fel pobl a’n hanes.” Meddai Fernand de Varennes, arbenigwr hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig sydd yn arbenigo’n benodol mewn hawliau lleiafrifoedd, mewn datganiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 21 Chwefror 2019 ynghyd â Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.
Meddai’r Rapporteur Arbenigol “mae materion ieithyddol yn aml yn cynnwys materion hawliau dynol pwysig ar gyfer lleiafrifoedd ac ar gyfer pobl frodorol, sydd ymhell tu hwnt i faterion ieithyddol neu ddiwylliannol.” Nododd fod iaith yn golygu pŵer, ac fod absenoldeb ieithoedd lleiafrifol a brodorol ym myd addysg ynghyd â diffyg defnydd gan yr awdurdodau a’r wladwriaeth wedi bod yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at eithrio ac ymylu ieithoedd a hyd yn oed gwahardd ieithyddol.
“Fel rhan o ddathlu’r cyfoeth a’r harddwch sydd yn perthyn i amrywiaeth ieithyddol y byd, mae’n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth yr ideoleg sydd yn nodi mai dim ond un iaith yn unig y dylai fod gan pob gwladwriaeth neu bob cymdeithas ar draul pob iaith arall, pan fo hyn yn gwrthdaro â hawliau ieithyddol lleiafrifoedd neu bobl frodorol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith felly yn gyfle i hyrwyddo a dathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol – ac i gydnabod ac amddiffyn yr hawliau dynol sydd gan leiafrifoedd a phobl frodorol yng nghyd-destun iaith.”
Yn ogystal, iaith ac addysg fydd ffocws Fforwm ar Faterion Lleiafrifoedd 2019 y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â’r fforymau rhanbarthol arfaethedig a drefnir o dan fandad y Rapporteur Arbenigol, Fernand de Varennes.
—
Mae’r Dr Fernand de Varennes, Rapporteur Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar faterion lleiafrifol yn Athro Arbennig yng Nghyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Pretoria, De Affrica; Athro Gwadd Cheng Yu Tung yng Nghyfadran y Gyfraith, Prifysgol Hong Kong ac yn Athro Gwadd yn y Ganolfan Wyddelig ar gyfer Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway. Mae’n un o brif arbenigwyr yn y byd ar hawliau lleiafrifoedd mewn cyfraith ryngwladol ac mae ganddo dros 200 o gyhoeddiadau mewn 30 o ieithoedd.
Mae’r Rapporteurs Arbenigol yn rhan o’r hyn a elwir yn Brosesau Arbenigol y Cyngor Hawliau Dynol. Y Prosesau Arbenigol yw’r corff mwyaf o arbenigwyr annibynnol yn system Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Y Prosesau Arbenigol yw’r enw cyffredinol ar gyfer y peirianwaith monitro a chanfod gwybodaeth sydd gan y Cyngor Hawliau Dynol ac sydd yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd mewn gwledydd unigol neu â themâu penodol ar draws y byd. Mae arbenigwyr y Prosesau Arbenigol yn gweithio’n wirfoddol; nid ydynt yn rhan o staff y Cenhedloedd Unedig ac nid ydynt yn derbyn cyflog am eu gwaith. Maent yn annibynnol o bob llywodraeth a chorff ac yn gweithredu yn eu hawl unigol eu hunain.