Rydym yn pryderu’n fawr am y dyfarniad diweddar gan Lys Consistori Eglwys Loegr yn Esgobaeth Coventry bod rhaid darparu cyfieithiad ar gyfer beddargraff Gwyddeleg yn un o’i mynwentydd. Fel y dywedasant:
‘O ystyried yr angerdd a’r teimladau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Wyddeleg, mae risg drist y caiff yr ymadrodd ei ystyried yn rhyw fath o slogan, neu y byddai ei gynnwys heb ei gyfieithu ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn ddatganiad gwleidyddol’ [cyfieithiad].
Mynegodd teulu Margaret Keane, a fu farw’n sydyn ym mis Gorffennaf 2018, eu siom ynghylch y dyfarniad, gan ddweud:
‘Dyfarnodd canghellor Coventry yn erbyn ein dewis o eiriad ar gyfer carreg fedd y gofeb, gan wrthod ein dymuniad i gael arysgrif yn Wyddeleg yn unig. Rydym yn siomedig iawn gyda’r dyfarniad sydd wedi troi arwydd o gariad teulu galarus yn fater gwleidyddol. Mae wedi bod yn dorcalonnus i ni, ac wedi atal y broses alaru. Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid oes gennym gofeb derfynol iddi eto.’ [cyfieithiad]
Mae’r teulu’n apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mae gan PEN hanes hir a balch ym maes Cyfieithu a Hawliau Ieithyddol.
Datblygwyd Maniffesto Girona PEN i amddiffyn amrywiaeth ieithyddol ledled y byd, ac ymhlith ei daliadau mae’n nodi:
- Bod parch at bob iaith a diwylliant yn sylfaenol i’r broses o lunio a chynnal deialog a heddwch yn y byd.
- Bod rhaid i’r Cenhedloedd Unedig gydnabod yr hawl i ddefnyddio ac amddiffyn iaith unigolyn fel un o’r hawliau dynol sylfaenol.
Mae’n bryder gennym fod y dyfarniad hwn yn adlewyrchu teimlad gwrth-Wyddeleg ac yn amharu ar amrywiaeth ieithyddol yn y DU. Galwn ar lys apêl Eglwys Loegr (Llys y Bwâu) i glywed yr apêl hon cyn gynted â phosib ac i wyrdroi’r penderfyniad gwallus hwn gan y Llys Consistori.
- PEN Lloegr
- PEN Iwerddon / Ymgyrch Rhyddid i Ysgrifennu (Iwerddon)
- PEN yr Alban
- Pwyllgor Cyfieithu a Hawliau Ieithyddol PEN Rhyngwladol
- Wales PEN Cymru
Os hoffech chi gefnogi Cronfa Goffa Margaret Keane gallwch wneud hynny yma.