Ysgrifennu’r frwydr yn erbyn anghyfiawnder

Ysgrifennu’r frwydr yn erbyn anghyfiawnder: arddangosfa o destunau o gasgliadau arbennig PCDDS i nodi 70 mlwyddiant ‘Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol’

(Read in English)

[Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant]

Fis Rhagfyr, cynhaliwyd noson arbennig oedd yn cynnwys sgyrsiau, barddoniaeth a bwyd rhyngwladol ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed i nodi Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, ac i ddathlu 70 mlynedd ers creu Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948. [Darllen mwy am y digwyddiad]

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys lansio arddangosfa arbennig sy’n canolbwyntio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ac yn cynnwys eitemau perthnasol o gasgliadau arbennig y Brifysgol. Mae’r eitem hynaf yn dyddio o 1649 ac mae’r themâu yn cynnwys hawliau seneddol, hawliau menywod a’r frwydr gwrth-caethwasiaeth.

Darllenwch fwy am yr arddangosfa yma (pdf)


Related Posts