Galw am ryddhau’r newyddiadurwr İsmail Arı | call for the release of journalist İsmail Arı

Mehefin 5ed 2026 June 5th 2026

PEN Cymru a sefydliadau partner yn galw am ryddhau’r newyddiadurwr İsmail Arı

Mae Wales PEN Cymru wedi llofnodi galwad gyda’r sefydliadau rhyddid i’r wasg, rhyddid mynegiant, newyddiadurwyr a sefydliadau hawliau dynol a nodir isod I alw am ryddhau ar unwaith y newyddiadurwr BirGün İsmail Arı, sydd wedi bod dan glo ers 75 diwrnod. Mae disgwyl i Arı ymddangos gerbron llys Ankara ar Fehefin 5ed, wedi iddo gael ei garcharu o dan yr hyn a elwir gan Twrci yn “gyfraith camwybodaeth fwriadol ” mewn cysylltiad â’i newyddiaduraeth ymchwiliol. Mae cronfa ddata monitro Media Freedom Rapid Response (MFRR) sef Mapping Media Freedom yn adrodd 55 achos sy’n gysylltiedig â disinformation, gan gynnwys achos İsmail Arı, ers cyflwyno Cyfraith Camwybodaeth Fwriadol yn 2022.

Cafodd Arı ei gadw yn ardal Turhal yn nhalaith Tokat ar Fawrth 21ain, lle roedd wedi teithio i ymweld â’i deulu yn ystod gwyliau Eid al-Fitr, ac wedi hynny cafodd ei drosglwyddo i Ankara. Mae’r ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Swyddfa Prif Erlynydd Cyhoeddus Ankara, yn cynnwys cyhuddiadau o “ledaenu gwybodaeth gamarweiniol yn gyhoeddus” o dan Erthygl 217 / A o Gôd Cosb Twrci a “sarhau swyddog cyhoeddus,” o dan Erthygl 125. Yn dilyn yr ymchwiliad, cafodd Arı ei arestio‘n ffurfiol.

Mae ffeil yr ymchwiliad wedi’i hadeiladu’n bennaf o amgylch gwaith newyddiadurol Arı, gan gynnwys ei adroddiadau cyhoeddedig, postiadau cyfryngau cymdeithasol, a’i bresenoldeb mewn digwyddiadau cyhoeddus, gan ddangos yn glir bod awdurdodau Twrci yn trin gweithgarwch newyddiadurol arferol fel tystiolaeth droseddol. Nid yw gohebu straeon, siarad â ffynonellau, ac ymchwilio i faterion o ddiddordeb y cyhoedd yn weithredoedd troseddol.

Mae cyfraith camwybodaeth bwriadol  Twrci  yn anghydnaws â strwythr safonau rhyngwladol rhyddid y wasg. Mae’r geiriad amwys yn methu â diffinio’n glir beth yw “gwybodaeth anwir” nac yn nodi pa fath o gynnwys sy’n fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol neu drefn gyhoeddus, gan roi disgresiwn eang i awdurdodau ddefnuddio’r gyfraith fel arf yn erbyn newyddiaduraeth annibynnol a dychryn gohebwyr.

Nid arestio Arı yn gynharach eleni yw’r tro cyntaf i’r newyddiadurwr gael ei dargedu am ei waith. Y llynedd, derbyniodd Arı  fygythiadau uniongyrchol yn dilyn ei ohebu ar rwydwaith troseddau cyfundrefnol “Şahinler” ac erthygl a ysgrifennodd am lwgrwobrwyo barnwrol honedig. Roedd y bygythiadau hyn, a anfonwyd gan rif tramor anhysbys, yn cynnwys nid yn unig negeseuon uniongyrchol sy’n ei dargedu’n bersonol, ond hefyd rhestr o wybodaeth am ei berthnasau. Derbyniodd o leiaf un aelod o’r teulu fygythiadau uniongyrchol hefyd.

Yn dilyn y bygythiadau, ffeiliodd Arı gwynion gyda’r heddlu a’r Weinyddiaeth Fewnol. Er gwaethaf difrifoldeb y digwyddiad, dim ond rhif “amddiffyniad rhybudd” 90 diwrnod a roddodd yr heddlu iddo i roi adroddiad am ddigwyddiadau pellach.

Rydym yn galw ar awdurdodau Twrci i:

  • Rhyddhau İsmail Arı ar unwaith ac yn ddiamod yn y gwrandawiad yn Ankara ar Fehefin 5,
  • Diddymu Erthygl 217 / A o Gôd Cosb Twrci yn ei gyfanrwydd,
  • Cysoni yr holl ddeddfwriaeth sy’n rheoleiddio rhyddid mynegiant i gyd-fynd gyda chyfrifoldebau rhyngwladol Twrci.

Llofnodwyr:

Sefydliad y Wasg Ryngwladol (IPI)

Erthygl 21

Pwyllgor i Ddiogelu Newyddiadurwyr (CPJ)

Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Rhyddid y Wasg a’r Cyfryngau (ECPMF)

Ffederasiwn Newyddiadurwyr Ewrop (EFJ)

Ffederasiwn Rhyngwladol y Newyddiadurwyr (IFJ)

Cymdeithas Cyfryngau Tramor Twrci (FMA)

Cymdeithas Astudiaethau’r Cyfryngau a’r Gyfraith (MLSA)

Osservatorio Balcani Caucaso Transeuropa (OBCT)

PEN Rhyngwladol

PEN Norwy

PEN Sweden

Cymdeithas y Newyddiadurwyr Blaengar (ÇGD)

Llwyfan P24 ar gyfer Newyddiaduraeth Annibynnol

Reporters Without Borders (RSF)

Sefydliad Cyfryngau De-ddwyrain Ewrop (SEEMO)

Wales PEN Cymru

Mae PEN Cymru yn rhan o rhwydwaith rhyngwladol PEN, syn amddiffyn rhyddid mynegiant ac yn cefnogi awduron syn cael eu herlid ledled y byd.

Dyma’r ddolen i ymuno / ail-ymaelodi

 

Wales PEN Cymru and partner organisations call for the release of journalist İsmail Arı ahead of June court hearing

Wales PEN Cymru and the undersigned press freedom, freedom of expression, journalists’ and human rights organisations call for the immediate release of BirGün journalist İsmail Arı, who has been behind bars for 75 days. Arı is due to appear before an Ankara court on June 5, after being jailed under Turkey’s so-called “disinformation law” in connection with his investigative journalism. Media Freedom Rapid Response’s (MFRR) monitoring database Mapping Media Freedom reports 55 cases related to disinformation, including that of İsmail Arı, since the introduction of Disinformation Law in 2022.

 

Arı was detained in the Turhal district of Tokat province on March 21, where he had travelled to visit family during the Eid al-Fitr holiday, and was subsequently transferred to Ankara. The investigation, conducted by the Ankara Chief Public Prosecutor’s Office, includes charges of “publicly disseminating misleading information” under Article 217/A of the Turkish Penal Code and “insulting a public official,” under Article 125. Following the investigation, Arı was formally arrested.

 

The investigation file is built primarily around Arı’s journalistic work, including his published reports, social media posts, and attendance at public events, making clear that Turkish authorities are treating routine journalistic activity as criminal evidence. Covering stories, speaking with sources, and investigating matters of public interest are not criminal acts.

Turkey’s disinformation law is structurally incompatible with international press freedom standards. Its vague wording fails to clearly define what constitutes “untrue information” nor to specify what type of content poses a threat to national security or public order, handing authorities broad discretion to weaponise the law against independent journalism and intimidate reporters.

Arı’s arrest earlier this year is not the first time the journalist has been targeted for his work. Last year, Arı received direct threats following his reporting on the “Şahinler” organised crime network and an article he wrote about alleged judicial bribery. These threats, sent from an unknown foreign number, included not only direct messages targeting him personally, but also a list of information about his relatives. At least one family member also received direct threats.

Following the threats, Arı filed complaints with the police and the Ministry of Interior. Despite the seriousness of the incident, the police only provided him with a 90-day “caution protection” number to report further incidents.

We call on Turkish authorities to:

  • Immediately and unconditionally release İsmail Arı at the hearing in Ankara on June 5,
  • Repeal Article 217/A of the Turkish Penal Code in its entirety,
  • Bring all legislation regulating freedom of expression into line with Turkey’s international obligations.

Signatories:

International Press Institute (IPI)

Articolo 21

Committee to Protect Journalists (CPJ)

European Centre for Press and Media Freedom (ECPMF)

European Federation of Journalists (EFJ)

International Federation of Journalists (IFJ)

Foreign Media Association Turkey (FMA)

Media and Law Studies Association (MLSA)

Osservatorio Balcani Caucaso Transeuropa (OBCT)

PEN International

PEN Norway

PEN Sweden

Progressive Journalists Association (ÇGD)

P24 Platform for Independent Journalism

Reporters Without Borders (RSF)

South East Europe Media Organisation (SEEMO)

Wales PEN Cymru

 

Wales PEN Cymru is part of the international PEN network, defending freedom of expression and supporting persecuted writers worldwide.

Join or renew your membership here

Related Posts