Ysgrifenwyr blaenllaw o Gymru’n cydsefyll ag ysgrifenwyr sydd wedi’u carcharu yn Nhwrci

Mae grŵp newydd Gogledd Cymru Wales PEN Cymru wedi trefnu noson o gerddoriaeth a barddoniaeth yng Nghaernarfon i gefnogi ysgrifenwyr Cwrdaidd a Thwrcaidd sydd wedi eu carcharu am lefaru’n eofn.

Mewn CELL yn Nhwrci

Noson o gerddoriaeth a barddoniaeth i gefnogi awduron Cwrdaidd a Thwrcaidd sydd yn y carchar yn Nhwrci

Bar Bach, Caernarfon. 8pm. Nos Fercher, 14 Tachwedd

£5 wrth y drws

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn arwain noson lle bydd y canwr a’r cyfansoddwr Cwrdaidd Ali Sizer, y dramodydd Meltem Arikan o Dwrci a beirdd blaenllaw o Ogledd Cymru’n perfformio. Mae Ali Sizer a Meltem Arikan ill dau bellach yn byw’n alltud yng Nghymru ac yn ogystal ag adrodd eu hanes hwythau bydd y noswaith yn tynnu sylw at sefyllfa awduron Cwrdaidd a Thwrcaidd sydd yn y carchar, llawer ohonynt yn cael eu cadw ar eu pen eu hunain heb ddyddiad wedi’i osod ar gyfer eu treial – a hynny am fod yn ddigon dewr i ddweud y gwir. Bydd y noson yn dathlu eu dewrder ac yn mynegi ein cydsafiad â phawb sy’n brwydro am ryddid i lefaru.

Corff rhyngwladol yw PEN sy’n llais blaenllaw i lenyddiaeth ledled y byd ac sy’n amddiffyn rhyddid mynegiant ac yn hyrwyddo hawliau llenyddol a ieithyddol. Mae PEN yn ymgyrchu ar ran awduron ym mhob cwr o’r byd sy’n cael eu herlid, eu carcharu ac sy’n dioddef aflonyddu ac ymosodiadau oherwydd yr hyn maent wedi ei ysgrifennu.

Mae Wales PEN Cymru yn un o’r 145 o ganolfannau PEN mewn mwy na chan gwlad ledled y byd. Mae’n rhedeg prosiectau a digwyddiadau ym mhob rhan o Gymru, gan anelu’n arbennig at gefnogi ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phawb sydd wedi eu dadleoli a bellach yn byw yng Nghymru, ac i ymgyrchu dros bobl sydd yn y carchar oherwydd yr hyn maent wedi ei ysgrifennu.

Mae grŵp newydd Gogledd Cymru Wales PEN Cymru yn croesawu pawb i’w ddigwyddiad cyntaf. Bydd hyn yn gyfle prin i brofi peth o ddiwylliant y Cwrdiaid a diwylliant Twrci. Mae Ali Sizer yn un o ddehonglwyr gorau cerddoriaeth Gwrdaidd ac mae Meltem Arikan yn awdur Twrcaidd sydd wedi’i gwobrwyo am ei gwaith. Yn ogystal, bydd Ifor ap Glyn hefyd yn cyflwyno rhai o feirdd gorau’r Gogledd. Dyma noson nad oes mo’i cholli. 

Wales PEN Cymru ~ walespencymru@gmail.com

 

Grŵp Gogledd Cymru Wales PEN Cymru

Cyswllt: Sally Baker.  sally.caellobrith@btopenworld.com

Ifor ap Glyn

Ali Sizer

Meltem Arikan

Related Posts