Paul Kaye yw enillydd Translation Challenge 2019!

[read in English]

Cyhoeddwyd mai Paul Kaye yw enillydd Translation Challenge 2019 yn nigwyddiad Wales PEN Cymru yng Ngŵyl y Gelli ar y 25ain o Fai.

Mae Paul Kaye yn gweithio fel swyddog iaith yng Nghynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yn y DU, yn Llundain, ac mae’n gyfrifol am wahanol fathau o waith allgymorth sy’n gysylltiedig ag iaith a chyfieithu i’r UE. Mae’r swydd hon yn secondiad o wasanaeth cyfieithu’r Comisiwn ym Mrwsel, lle bu’n cyfieithu dogfennau cyfreithiol a thechnegol o Slofaceg, Tsieceg, Pwyleg, Ffrangeg a Hwngareg i’r Saesneg.

Yn ei gamau cyntaf i gyfieithu llenyddol mae wedi dewis canolbwyntio ar y Bwyleg ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn nofelau graffeg a ffeithiol-lenyddol a newyddiadurol. Yn gynharach, bu’n gweithio fel newyddiadurwr polisi amgylcheddol am ddeng mlynedd, ym Mrwsel yn bennaf, a chyn hynny yn Bratislava, Slofacia, fel athro Saesneg, newyddiadurwr radio a phrint, a chyfieithydd. Fe’i magwyd yn Bolton, Swydd Gaerhirfryn ac astudiodd bioleg ym Mhrifysgol Sussex.

Bydd Paul yn derbyn gwobr o £200.

Yr her eleni oedd cyfieithu tair cerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Wioletta Greg.

Trefnwyd y Translation Challenge ar y cyd rhwng Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Polish Cultural Institute a Poetry Wales.

Daeth un ar ddeg ymgais i law’r beirniad, Antonia Lloyd-Jones, a ddywedodd:

“The top entries for the poetry translation contest were of an extremely high standard, and it was hard to choose between them.”


Related Posts