İlkyaz – hyrwyddo ysgrifenwyr ifanc yn Nhwrci

[Read in English]

Mae İlkyaz yn blatfform llenyddol misol sy’n cynnwys gwaith gan ysgrifenwyr yn Nhwrci sydd o dan 35 mlwydd oed ac nad yw eu lleisiau yn cael eu clywed yn aml. Nod y cyhoeddiad yw hyrwyddo a rhannu lleisiau’r ysgrifenwyr hynny drwy gyhoeddi rhyddiaith neu farddoniaeth gan dri o ysgrifenwyr felly bob mis.

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2018, mae İlkyaz – sy’n golygu cychwyn y Gwanwyn – wedi cydweithio gyda chanolfannau PEN gwahanol bob mis er mwyn sicrhau bod gwaith y tri ysgrifennwr a ddewiswyd yn cael eu rhannu mor eang â phosib yn Nhwrci a thu hwnt.

Rydym ni yn Wales PEN Cymru yn hynod o falch i gydweithio a chefnogi gwaith clodwiw İlkyaz y mis hwn. Er mwyn helpu hyrwyddo eu lleisiau, byddwn yn rhannu gwaith y tri ysgrifennwr a ddewiswyd y mis hwn ar ein gwefan.

Gobeithiwn hefyd y bydd modd i ni gydweithio i gyfieithu’r gwaith i’r Gymraeg yn y dyfodol.

Ewch i wefan İlkyaz i weld gwaith yr ysgrifenwyr eraill

Related Posts