Hiraeth Erzolirzoli: lansiad antholeg Cymru-Cameroon

[Read in English]

Cafodd Hiraeth Erzolirzoli: A Wales – Cameroon Anthology (Abertawe: Llyfrau Hafan) lansiad hynod lwyddiannus yn Yaounde, prifddinas Camerŵn ym mis Hydref 2018.

Mae’r llyfr yn cynnwys tua 20 o awduron o Gymru ac 20 o awduron o Gamerŵn a ddewiswyd gan y golygydd, Eric Ngalle Charles, sy’n awdur a anwyd yng Nghamerŵn sy’n byw yng Nghymru (cyhoeddir ei gofiant I, Eric Charles, Migrant gan Parthian Books ym mis Gorffennaf).

Daeth prif bersonoliaethau gwleidyddol a chelfyddydol Camerŵn i’r lansiad. Rhoddwyd sylw i’r antholeg Cymreig-Affricanaidd cyntaf erioed hwn ar holl gyfryngau celfyddydol Camerŵn. Talwyd costau teithio Eric, Ifor a Mike gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru fel rhan o brosiectau cyfredol i ddatblygu cysylltiadau celfyddydol Cymru+Affrica.

Mae gan Wales PEN Cymru ddiddordeb penodol mewn cefnogi awduron alltud / sy’n ffoaduriaid yng Nghymru. Wrth i amser fynd heibio ac wrth i sefyllfaoedd gwleidyddol newid, mae Eric yn enghraifft wych o sut y gall awdur alltud ddod yn llysgennad dwyffordd.

Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru), Roaul Djimeli (cyfarwyddwr Clijec – cymdeithas awduron ifanc Camerŵn), Eric Ngalle Charles (awdur a golygydd), a Mike Jenkins (awdur a golygydd).

Sylw yn y wasg i Eric Ngalle Charles yn dod â beirdd Cymreig i Gamerŵn.

Related Posts