[Read about this year’s Translation Challenge]

Mae’n bleser gennym gyhoeddi dwy gystadleuaeth gyfieithu: yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge.

Mae’r gystadleuaeth eleni yn canolbwyntio ar y rhanbarth Arabaidd ac yn tynnu sylw at ei hamlieithrwydd, gan osod heriau i gyfieithu gwaith y beirdd Samira Negrouche o Algeria (o’r Ffrangeg i’r Gymraeg) ac Asmaa Azaizeh o Balesteina (o’r Arabeg i Saesneg). Y beirniaid yw Siân Melangell Dafydd a Yasmine Seale.

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge, yn 2009 fel cystadlaethau blynyddol ar gyfer cyfieithu llenyddol, er mwyn hyrwyddo a dathlu cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal â bod yn gyfle i annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r gystadleuaeth i’r Gymraeg (Her Gyfieithu) yn agored i bawb ac mae’r gystadleuaeth i’r Saesneg (Translation Challenge) yn agored i gyfieithwyr sy’n byw yng Nghymru neu sy’n diffinio eu hunain yn Gymry, ac fe’i rheolir gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac O’r Pedwar Gwynt.

[Gweler wybodaeth am y Translation Challenge yma]

Gweler cerdd yr Her Gyfieithu (pdf)

Dyddiad cau: 31 Mai 2021

Beirniad: Siân Melangell Dafydd

Gwobr: £200 a Ffon yr Her Gyfieithu (rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

Cynhelir seremoni wobrwyo ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda chyfieithwyr buddugol yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge dydd Mercher 29ain Medi 2021. Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt. 

Sut i gystadlu?

  • Caniateir i gystadleuwyr ddefnyddio unrhyw adnoddau a ddymunant wrth gystadlu yn yr Her a chaniateir gwaith grŵp, ond noder mai un wobr sydd.
  • Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nag un cynnig ond rhaid cyflwyno ffi am bob ymgais, a dylid cyflwyno pob cynnig dan ffugenw gwahanol.
  • Codir ffi cystadlu o £6 am bob cynnig, y gellir ei dalu drwy’r ddolen isod. Ni ystyrir unrhyw gais tan y derbynnir taliad. Noder nad oes rhaid i aelodau Wales PEN Cymru dalu ffi i gystadlu.
  • Anfonwch eich cyfieithiad a’r ffurflen gais at walespencymru@gmail.com erbyn canol nos ar y 31ain o Fai 2021.
  • Nodwch eich enw a’ch manylion cyswllt ar y ffurflen gais, ond ffugenw yn unig yn yr atodiad sy’n cynnwys eich cyfieithiad.

Talu’r ffi gystadlu o £6 (oni bai eich bod yn aelod o WPC)



Enw’r cyfrif | Account name: Wales PEN Cymru
Rhif cyfrif | Account number: 65736704
Cod didoli | Sort code: 08-92-99


Gwybodaeth am y bardd, Samira Negrouche

Mae Samira Negrouche (1980) yn fardd ac yn gyfieithydd o Algeria, sy’n byw yn Algiers. Fe’i magwyd mewn teulu Tamazight ac mae’n ystyried yr iaith honno, ynghyd â’r Ffrangeg ac Arabeg, yn fam ieithoedd iddi. 

Hyfforddodd fel meddyg ond mae hi bellach wedi ymroi’n llwyr i ysgrifennu, cyfieithu a phrosiectau creadigol. 

Cyhoeddodd chwe chasgliad o farddoniaeth a nifer o lyfrau ar y cyd ag artistiaid, yn cynnwys A l’ombre de Grenade (2003), Le Jazz des oliviers (2010) a Six arbres de fortune autour de ma baignoire (2017). Quai 2I1, partition à trois axes (2019) a Traces (2021) yw ei chyhoeddiadau diweddaraf. The Olive TreesJazz and Other Poems (2020), a gyfieithwyd gan Marilyn Hacker, yw ei chasgliad hir cyntaf i ymddangos yn Saesneg. 

Mae hi’n gyfieithydd barddoniaeth Arabeg i’r Ffrangeg ac yn hyrwyddo barddoniaeth gyfoes, Ffrangeg o Algeria, a golygodd y flodeugerdd Quand l’Amandier fleurira (2012) a chreu’r sioe Soleils yn cyflwyno barddoniaeth Ffrangeg o Algeria o’r 1930au hyd heddiw. 

Mae hi’n cydweithio’n aml gydag artistiaid gweledol a cherddorion, gan gynnwys Marianne Piketty, Katerina Fotinaki, Lionel Martin a Bruno Helstroffer, y creodd Quai 2I1 gyda nhw yn 2018, yn ogystal â’r artist graffit Ali Silem, y creodd y gosodiad Bâton/Totemin gydag ef yn 2016. 

Yn llais pwysig yn ei gwlad, mae ei barddoniaeth wedi ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd. 


Gwybodaeth am y beirniad, Siân Melangell Dafydd

Mae Siân Melangell Dafydd yn awdur, yn fardd, yn olygydd ac yn gyfieithydd. Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth (2009) Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009. Roedd yn gyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. 

Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Filò, yn 2019 ac fe’i dewiswyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru i’w hyrwyddo ar eu Silff Lyfrau blynyddol. 

Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cydweithio’n aml gydag awduron a beirdd rhyngwladol i gyfieithu, i gyd-ysgrifennu ac i berfformio. 

Fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Barddoniaeth India-Cymru, bu’n cydweithio gyda’r bardd o Malayali, Anitha Thampi, ac arweiniodd hynny at gyhoeddi’r casgliad Dŵr Arall / A Different Water (2019). 

Bu’n byw ym Mharis am ddegawd cyn dychwelyd i Gymru, ac mae hi’n gweithio fel darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Americanaidd Paris.

(Llun: Edi Matić)



Information about the poet, Samira Negrouche

Samira Negrouche (1980) is a Francophone Algerian poet and translator living in Algiers. 

She was raised in an Amazigh-speaking family and considers herself to have three mother tongues: Amazigh, Arabic and French. 

 She trained as medical doctor but has dedicated herself exclusively to writing, translation and creative projects. 

She has published six poetry collections and several books in collaboration with artists, includingA l’ombre de Grenade (2003), Le Jazz des oliviers (2010) andSix arbres de fortune autour de ma baignoire (2017). Her most recent publications areQuai 2I1, partition à trois axes (2019) and Traces (2021). The Olive TreesJazz and Other Poems (2020) translated by Marilyn Hacker is her first full length collection to appear in English. 

Translator of Arabic poetry into French and promoter contemporary francophone Algerian poetry, she edited the anthologyQuand l’Amandier fleurira, published in 2012, and created the poetry showSoleilspresenting Algerian francophone poetry from the 1930s until today. 

She often collaborates with visual artists and musicians, including Marianne Piketty, Katerina Fotinaki, Lionel Martin and Bruno Helstroffer, with whom she createdQuai 2I1 in 2018, as well as the graphic artist Ali Silem, with whom she created the installationBâton/Totemin 2016. A major voice in her country, her poetry is translated into over twenty languages.


Information about the adjudicator, Siân Melangell Dafydd

Siân Melangell Dafydd is an author, poet, editor and translator. Her first published novel, Y Trydydd Peth (The Third Thing, 2009) won her the coveted National Eisteddfod Literature Medal in 2009 and she was the last co-editor of the iconic literary magazine, Taliesin. 

Her latest novelFilò, was published in 2019, and has been selected by Wales Literature Exchange for promotion in its 2020–21 Bookcase. 

She writes in both Welsh and English and often collaborates with authors and poets internationally to translate, co-write and perform. 

Her collaboration with the Malayalam poet Anitha Thampi, as part of the project Poetry Connections India-Wales, resulted in the collection Dŵr Arall /A Different Water (2019). She lived in Paris for ten years before returning to Wales, and works as a lecturer in Creative Writing at Bangor University as well as at the American University of Paris. 


Related Posts