Mae’n bleser gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Poetry Wales, Goethe-Institut, ac O’r Pedwar Gwynt, gyhoeddi’r ddwy gystadleuaeth gyfieithu eleni, sef yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge.

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu (cyfieithu i’r Gymraeg) a The Translation Challenge (cyfieithu i’r Saesneg) yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.

Y darn gosod eleni ar gyfer y ddwy gystadleuaeth yw dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd adnabyddus o dras Twrcaidd sy’n ysgrifennu mewn Almaeneg, Zafer Şenocak.

Mae’r dilyniant o gerddi i’w gweld yma

Dyddiad cau: 22 Mai 2020

Beirniad: yr Athro Mererid Hopwood

Gwobr: £200 a Ffon yr Her Gyfieithu (rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

Cynhelir seremoni wobrwyo ar gyfer y ddwy gystadleuaeth gyda’r cyfieithwyr buddugol yn y Senedd fis Medi. Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt.


Sut i gystadlu?

  • Codir ffi cystadlu o £6 am bob cynnig, y gellir ei dalu drwy’r ddolen isod. Ni ystyrir unrhyw gais tan y derbynnir taliad. Noder nad oes rhaid i aelodau Wales PEN Cymru dalu ffi i gystadlu.
  • Anfonwch eich cyfieithiad a’r ffurflen gais at walespencymru@gmail.com erbyn canol nos ar yr 22ain o Fai.
  • Nodwch eich enw a’ch manylion cyswllt ar y ffurflen gais, ond ffugenw yn unig yn yr atodiad sy’n cynnwys eich cyfieithiad.
  • Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nag un cynnig ond rhaid cyflwyno ffi am bob ymgais, a dylid cyflwyno pob cynnig dan ffugenw gwahanol.
  • Caniateir i gystadleuwyr ddefnyddio unrhyw adnoddau a ddymunant wrth gystadlu yn yr Her ac fe ganiateir gwaith grŵp, ond noder mai un wobr sydd.

Talu’r ffi gystadlu (£6)


Gwybodaeth am y bardd, Zafer Şenocak

Ganwyd Zafer Şenocak yn 1961 yn Ankara, Twrci, ac mae’n byw yn yr Almaen er 1970. Ar hyn o bryd, mae’n byw ym Merlin, lle y mae wedi dod yn llais blaenllaw yn nhrafodaethau’r Almaen ar amlddiwyllianedd, hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol, ac yn gyfryngwr rhwng diwylliannau Twrcaidd ac Almaeneg.

Astudiodd Şenocak Astudiaethau Almaeneg, Gwyddorau Gwleidyddol ac Athroniaeth yn Munich. Mae’r bardd, ysgrifennydd, nofelydd, newyddiadurwr a golygydd wedi cyhoeddi’n eang, ac wedi ennill gwobrau llenyddol o fri yn yr Almaen.

Mae hefyd yn ysgrifennu i bapurau newydd gan gynnwys Tageszeitung a Die Welt. Roedd Şenocak yn Athro Gwadd Nodedig Max-Kade yn M.I.T. 1997, yn awdur preswyl mewn sawl prifysgol a choleg, ymhlith eraill, Coleg Dartmouth 1999, Coleg Oberlin 2000, Prifysgol Cymru, Abertawe 2000, UC Berkeley 2003.

Cyhoeddwyd ei draethawd “Atlas of a tropical Germany” gan Wasg Prifysgol Nebraska yn 2000, wedi’i gyfieithu gan yr Athro Leslie A. Adelson, o Brifysgol Cornell. Cyhoeddwyd ei nofel Perilous Kinship, yn y Deyrnas Gyfunol, wedi’i chyfieithu gan Tom Cheesman. Cyhoeddwyd  ei farddoniaeth, Door Languages, yn 2008, wedi’i chyfieithu gan Elizabeth Oehlkers-Wright, Zephyr Press, Boston, UDA. Cyhoeddwyd ei nofelau – rhai ohonynt yn Almaeneg ac eraill yn Nhwrceg – yn yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, Twrci, yr Eidal a’r Deyrnas Unedig.


Gwybodaeth am y beirniad, yr Athro Mererid Hopwood

Ganwyd Mererid Hopwood yng Nghaerdydd, ac mae bellach wedi ymgartrefu yn Llangynnwr. Ar ôl cwblhau gradd mewn Sbaeneg a’r Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, enillodd ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth Almaeneg o Goleg y Brifysgol, Llundain. Mererid oedd y bardd benywaidd cyntaf i ennill cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001, y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008.

Mae hi wedi bod yn dysgu am ran helaeth o’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf ym maes iaith a llenyddiaeth, gan ddysgu mewn pob math o amgylchiadau, o brifysgol i ysgol nos, o gyrsiau i’r plant lleiaf i ddisgyblion uwchradd. Bellach mae hi’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae hi hefyd yn cyfieithu gwaith i’r Gymraeg. Yn 2005, cyfieithodd y llyfr i blant, Seren Lowri gan Klaus Baumgart, o’r Almaeneg i’r Gymraeg a llynedd cyfieithodd Y Cylch Sialc gan Brecht i Theatr Genedlaethol Cymru.

 


Related Posts