Nahaufnahmen 

 

Setze mich zusammen aus Wörtern 

den halbstarken Sätzen sage ich ade 

 

Blut Salz und Spucke  

lyrischer Schlamm  

tut der Erde Not 

 

Regenfrische und Tauzeit 

Frost ade  

 

ein Frühlingsspruch 

 

innehalten 

 

Längen von Wildpfaden 

führen durch Erinnerungslücken 

 

das war’s  

 

wer kommt daher  

geht nach Haus 

 

II  

aufgewacht und aufgeschrieben 

ein ganzes Leben 

so verlor die andere Zeit  

ihre bedrohliche Ewigkeit 

zuständig für Angst die Nächsten 

das bange Schreiben  

und ihrethalben Schweigen 

nichts was ein einziger Atemzug 

nicht sagen kann 

  

III 

keine Schwäne 

Winterrotation  

üblich 

beim Wandern  

die Finger gespreizt 

ausmessen der Bergkämme 

Gipfel weggetragen auf Schneebahren 

keine Schwäne unter den Opfern 

der Wind pfeift sich Stimmorgane zurecht 

Sprache wird auferstehen 

und behaupten sie sei Mensch 

eine Verfolgte  

die Rare 

die Schützenswerte  

überall reparaturbedürftig 

nur ein Gerücht der Zustand 

des Gefieders  

im Schrank 

 

IV  

an der Zungenspitze lösen sich die Gedanken auf 

babylonische Stille 

wer noch einen Bruder hat im Glauben 

versinkt im Lehm  

lass dich kneten Bruder 

es entkommen nicht mal die feinsten Dichter 

Neruda sei auf der Barkasse gesessen die den Tigris hinuntertrieb 

unweit von Bagdad 

ein Regentag 

 

es schüttet in die Hände der Teig knetenden Frauen 

auf dem Sand füllen sich die tiefen Spuren von Panzerketten 

mit dem Rosenöl aus altertümlichen Flaschen 

wie sie es geschafft haben nicht zu zerbrechen 

es regnet weiter 

ich frage den Regendichter  

dessen Namen zu verwischen droht  

auf gewelltem Papier 

Badr Schakir al-Sayyab 

ihn frage ich nach dem Weg zu Neruda 

Weggenossen auf verschiedenen Erdteilen 

 

Neruda hat hier keine Adresse mehr 

auf dem Tigris Schleppkähne 

nachts mit Leichen tags mit Öl 

das Wintergemüse hinter dem Haus 

spricht sich für Leben aus 

Neruda lebt 

aber die Schleppkähne  

Nacht für Nacht 

ruhen nicht 

wie schön wäre jetzt eine leere Barkasse 

am Ufer schwankend 

 

ich habe wieder Hoffnung 

man bemüht sich um die Toten 

friedlich zu halten 

warme Decken 

wenn es für immer dunkel bleibt 

nichts mehr zu sagen 

Verhörstille 

 

VI 

wir trugen Holz auf den Berg 

Stamm für Stamm  

ausgestreckte Arme nahmen uns die Last 

 

auf dem Rückweg  

fiel und fiel der Schnee  

auf den weißen Strich der Ebene 

 

woher waren wir gekommen 

von wem losgeschickt 

unser Los unbekannt 

 

unsere Füße trotzen der Straße 

wurzeln anstelle der gefällten Bäume 

krumme Felsbrocken 

 

VII 

Halteseile bleiben von jedem Gedicht übrig 

verschwommener Boden 

 

den Augen sei Dank 

ihr Blick reicht nicht tief 

 

für den Gang brauchst du festeren Grund 

bessere Augen für den Horizont 

 

du wolltest windgerecht sein 

die Flügel aufgespannt 

 

Franziskus unter den Heiligen wollte nie fliegen 

seine Schulter Landeplatz für den Müden 

 

wir sind fluglahm und wieder nah  

jedem Boden 

 

Zafer Şenocak

Craffu 

 

I

Crea fi mewn Geiriau 

ac mi ffarweliwn â Brawddegau blin 

 

Gwaed a Phoer a Halen 

a Mwdiach telynegol 

sydd ei Angen ar y Ddaear  

 

mewn Cawod oer ac mewn Dadmer 

ffarweliwn a’r Barrug 

 

dyma ddihareb y Gwanwyn 

 

saib 

 

Mae milltiroedd o Lwybrau Gwyllt 

i’n harwain drwy Fylchau’r Cof 

 

a dyna ni 

 

mae’r sawl sy’n dod  

yn Dychwel hefyd 

 

II

ymgodais ac ymgofnodais 

fanion Bywyd cyflawn 

gan ddwyn perygl y Dibendrawdod 

oddi ar yr Oriau hir 

a’r Ing a’r Sgwennu ofnus 

sy’n dod yn sgil 

ei dawelwch 

does dim na ellid Dweud 

mewn anadl fer 

 

III 

does dim Elyrch 

a chyda Troad arferol 

rhod y Gaeaf 

wrth Grwydro 

lleda dy Fysedd 

a mesura’r Grib 

y Copaon a ddymchwelwyd mewn Lluwchfeydd 

does dim Elyrch ymysg y Meirw 

mae’r Gwynt yn gwthio alaw trwy’i Gorn Gwddw 

ac fe fydd Iaith yn codi eto 

yn cogio bod yn Ddynol 

yn Sglyfaeth 

a bydd popeth prin,  

popeth sydd angen gwarchod 

pob rhan yn gofyn gofal 

a dim ond Sibrydion am Ffawd 

y Plyfiach gwyn  

yn y Cwpwrdd 

 

IV

ar flaen Tafod mae Syniadau’n toddi i 

Dawelwch babilonaidd 

os oes gen ti Frawd yn y Ffydd, o hyd 

yn suddo mewn i’r Clai 

a thylino, Frawd 

tydi hyd yn oed y beirdd gorau yn ein mysg ddim yn dianc 

mae nhw’n deud fod Neruda wedi eistedd ar gwch ar afon Tigris 

nid nepell o Fagdad 

ar fore Gwlyb 

 

mae’n llifo trwy Ddwylo’r Merched, Dwylo Tylino 

ac mae’n llenwi rhychau’r Tanciau yn y Tywod 

gydag Olew Rhosod o hen Ffiolau 

tybed sut nas chwalwyd hwy 

mae’n wlyb o hyd, yn bwrw 

ac rwy’n holi bardd y glaw 

Badr Shakir-al-Sayaab 

a’i Enw’n bygwth llithro 

oddi ar y Papur tamp 

rwy’n ei holi am Neruda 

ei Gydymaith tros sawl Cyfandir 

 

 

ond dyw Neruda ddim yn Trigo yma rŵan 

ar Gychod afon Trigris 

sy’n Gyrff liw nos ac Olew liw dydd    

tu ôl i’r tŷ mae gardd o Lysiau’r Gaeaf 

yn dechrau Sôn am y gwanwyn 

a byw mae Neruda 

ond mae’r Cychod yn anniddig, yn  

gwrthod gorffwys yn y nos 

mor braf fyddai Cwch wag 

yn siglo’n dawel wrth y Lan 

 

 

V

rwy’n Obeithiol, eto 

rhaid gofalu i gadw’r Meirw 

mewn tawelwch 

dan Flancedi cynnes 

pan mae’r tywyllwch yn llusgo 

a dim i’w ddweud 

atebwn Gwestiynau’r Distawrwydd 

 

VI

cariasom Goed i’r Mynydd 

Lwyth ar ôl Llwyth 

a Breichiau llydan yn derbyn ein Beichiau 

 

wrth Ddychwelyd 

mae Eira’n syrthio, syrthio 

hyd Amlinell wen y Tir 

 

o ble y daethom ni 

pwy anfonodd ni 

a’n Tynged yn ddirgelwch 

 

mae’n Traed yn mentro’r Stryd 

ac mae Gwreiddiau lle bu’r fwyell 

a’r Meini cam 

 

VII

gorwedd Rhaffau diogelwch yn flêr hyd y Lloriau 

o dan bob Cerdd 

 

Diolcha nad yw’r edrychiad  

yn treiddio’n ddwfn 

 

mae angen Daear saff dan draed i Gerdded 

felly gwell cadw’r Llygaid tua’r Gorwel 

 

roeddet eisiau sefyll yn y gwynt 

gyda dy Adenydd ar led 

 

ac ymysg yr Hollsaint 

yr un i gadw’i draed ar y ddaear oedd Ffransis 

a’i Sgwyddau’n Lain Lanio i’r Blinedig 

 

rydan ni’n llonydd rŵan, a’n hadenydd yn gloff yn glynu’n  

agos at ddarn o ryw Ddaearen 

 

Grug Muse


Bardd, golygydd ac ymchwilydd yw Grug Muse. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawnY Stampa choeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod,gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, sy’n un o brosiectau Ewrop Greadigol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru, ac mae’n ddeiliad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o awduron wrth eu gwaith Gwyl y Gelli 2018-19, ac enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr eisteddfod ryng-golegol yn 2019. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd Canolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd. 

Grug Muse is a poet, editor and researcher. She is one of the founding members and editors of Y Stamp literary magazine. Her first volume of poetry, Ar Ddisberod, was published with Barddas in 2017. She is a resident of Ulysses Shelter 2020, a Creative Europe project managed jointly in Wales by Literature Across Frontiers and Wales Literature Exchange, and is a recipient of Literature Wales Writers Bursaries 2020. Her work has been published in several publications including O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales and others. She is currently working on a PhD research project at Swansea University. 


Related Posts