Mae’n bleser gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, the Polish Cultural Institute ac O’r Pedwar Gwynt gyhoeddi’r ddwy gystadleuaeth gyfieithu eleni, sef Her Gyfieithu 2019 (o Bwyleg i Gymraeg) a Translation Challenge 2019 (o Bwyleg i Saesneg).

Sefydlwyd yr Her Gyfieithu a The Translation Challenge yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.

Eleni, dwy gerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk, yw’r darnau gosod: Szuflada a Relentlessly craving. 

Mae’r ddwy gerdd, ynghyd â chyfieithiadau Saesneg a Sbaeneg, i’w gweld yma.

Dyddiad cau: 24 Mehefin 2019.

Beirniad: Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor.

Gwobr: £200 a Ffon yr Her Gyfieithu (rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru)

Cyhoeddir enw’r enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr 8fed o Awst, a chyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth ar wefan O’r Pedwar Gwynt ar y diwrnod.

Sut i gystadlu?

  • Codir ffi cystadlu o £6 am bob cynnig, y gellir ei dalu drwy’r ddolen isod. Ni ystyrir unrhyw gais tan y derbynnir taliad. Noder nad oes rhaid i aelodau Wales PEN Cymru dalu ffi i gystadlu.
  • Anfonwch eich cyfieithiad at walespencymru@gmail.com erbyn canol nos ar y 24eg o Fehefin 2019.
  • Nodwch eich enw a’ch manylion cyswllt yn yr e-bost, ond ffugenw yn yr atodiad sy’n cynnwys eich cyfieithiad.
  • Caniateir i gystadleuwyr gyflwyno mwy nag un cynnig ond rhaid cyflwyno ffi am bob ymgais, a dylid cyflwyno pob cynnig dan ffugenw gwahanol.
  • Caniateir i gystadleuwyr ddefnyddio unrhyw adnoddau a ddymunant wrth gystadlu yn yr Her ac fe ganiateir gwaith grŵp, ond noder mai un wobr sydd.




Gwybodaeth am y bardd

Julia Fiedorczuk

Mae Julia Fiedorczuk yn fardd, awdur, cyfieithydd ac yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warsaw.

Enillodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Listopad nad Narwią (Tachwedd ar yr afon Narew) wobr PTWK (Cymdeithas Awduron Gwlad Pwyl) yn 2004 ac fe enillodd Wobr Hubert Burda yn 2005 am ei chasgliad BIO. Bu’n rhan o brosiect llenyddol rhyngwladol Metropoetica: Women Writing Cities ac mae’n cyfrannu’n gyson at y cylchgrawn ffeminyddol Zadra.

Mae llawer o’i gwaith yn gysylltiedig ag ecofeirniadaeth ac mae Julia yn adnabyddus am gyfrannu at boblogeiddio ecofarddoniaeth. Yn ei chasgliad Psalmy (Salmau), a enillodd Wobr Farddoniaeth Wisława Szymborska yn 2018, mae’n ceisio cynnwys a chynrychioli’r rhai sydd heb lais, drwy alaru am y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd, ynghyd ag am y rhywogaethau a’r ecosystemau a gollwyd am byth.

Mae wedi cyhoeddi chwe chyfrol o farddoniaeth, dwy gyfrol o straeon byrion Poranek Marii i inne opowiadania (Bore Mair a Straeon Eraill) a Bliskie Kraje (Gwledydd Cyfagos) yn 2016, a dwy nofel: Biała Ofelia (Offelia Wen) yn 2010 a Nieważkość (Heb bwysau) yn 2015, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Lenyddol Nike. Cyfieithwyd ei barddoniaeth i nifer o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Swedeg, Tsieceg a Siapaneg. 


Related Posts