A ddarllenoch chi ddarn ysbrydoledig am Gymru yn ystod y flwyddyn hon – boed yn ysgrif, blog neu erthygl, yn Gymraeg neu’n Saesneg?

Dyma eich cyfle i enwebu darn ar gyfer gwobr Emyr Humphreys Wales PEN Cymru. Byddwn yn derbyn enwebiadau hyd at 5 Ionawr 2020.

Wedi hynny bydd y beirniaid Sian Northey, Eluned Gramich a’r Athro Daniel G Williams yn cyfarfod i drafod a dewis yr enillydd. Cynhelir seremoni fer gyda’r enillydd ym mis Ebrill yn yr Egin, Caerfyrddin. Bydd cyfle i glywed y darn buddugol yn y noson wobrwyo ynghyd â darlleniadau o weithiau awduron sydd yn y carchar ar hyn o bryd am herio’r drefn.

Dyma gyfle felly i enwebu darn am Gymru yr ystyriwch chi sy’n haeddu ei ledaenu ymhellach a bydd y darn arobryn, boed yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn derbyn gwobr o £1,000.

Anfonwch eich enwebiadau at walespencymru@gmail.com erbyn 5 Ionawr 2020.

Have you read an inspiring piece of writing about Wales this year — an essay, article or blog, in Welsh or English?

Here is an opportunity for you to nominate that writing for the Emyr Humphreys Wales PEN Cymru award. Nominations will be accepted until 5 January 2020.

The three judges Sian Northey, Eluned Gramich and Professor Daniel G Williams will meet to discuss and chose the winner. A ceremony will be held to celebrate the winner in April in Yr Egin, Carmarthen. There will be a chance to hear the winner at a celebratory evening with readings from writers who are currently in prison for their challenging work.

Here is an opportunity therefore to nominate an inspiring piece of writing about Wales that deserves to be read widely and the winning piece, in Welsh or English, will receive the prize of £1,000.

Please send nominations to walespencymru@gmail.com before 5 January 2020.

Related Posts