[Read this page in English]

Ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithumae’n bleser gennym gyhoeddi mai Robin Farrar yw enillydd Her Gyfieithu 2021. 

Mae Robin Farrar yn diwtor iaith llawrydd sydd ar hyn o bryd yn byw yn Rambouillet ger Paris. Fe’i magwyd ar aelwyd ddwyieithog ym Mynydd Llandygái ger Bangor. Astudiodd radd mewn Mathemateg, a bu’n ymddiddori hefyd mewn materion amgylcheddol, cyn troi fwyfwy at faes ieithoedd. Bu’n ymgyrchydd gweithgar gyda Chymdeithas yr Iaith, gyda chyfnod fel Cadeirydd ac yna fel Ysgrifennydd y mudiad. Wedi symud i fyw yn Ffrainc yn 2018, mae’r diddordeb mewn ieithoedd yn parhau, ond fel athro a chyfieithydd erbyn hyn. Yn hytrach na dilyn gwersi traddodiadol, bu’n hogi ei sgiliau Ffrangeg wrth fyw, gweithio a gwneud gwahanol weithgareddau, megis gwersi drama, trwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal â siarad Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, mae’n siarad rywfaint o Bwyleg ac wrthi’n dysgu Basgeg. 

Mae Robin yn derbyn Ffon yr Her Gyfieithu a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ynghyd â gwobr ariannol o £200 gan Brifysgol Abertawe. 

Yr her eleni oedd cyfieithu cyfres o dair cerdd gan y bardd Samira Negrouche o’r Ffrangeg i’r Gymraeg. Mae Samira Negrouche yn fardd ac yn gyfieithydd o Algeria, sy’n byw yn Algiers. Fe’i magwyd mewn teulu Tamazight ac mae’n ystyried yr iaith honno, ynghyd â’r Ffrangeg ac Arabeg, yn fam ieithoedd iddi. Hyfforddodd fel meddyg ond mae hi bellach wedi ymroi’n llwyr i ysgrifennu, cyfieithu a phrosiectau creadigol. Yn llais pwysig yn ei gwlad, mae ei barddoniaeth wedi ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd.

Mewn cystadleuaeth gref, disgrifiodd y beirniad, Siân Melangell Dafydd, yr enillydd yn: “Gyfieithydd gofalus, sydd wedi mentro ac wedi canfod cymalau syml, gwefreiddiol i adael i lais Samira deithio i’r Gymraeg, ac i’r ddau lais fodoli hefo’i gilydd.”

Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol a’r feirniadaeth lawn ar wefan O’r Pedwar Gwynt.

Cynhelir digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant Robin, ynghyd â nodi canmlwyddiant PEN Rhyngwladol heno (29 Medi) am 5.30pm. Cliciwch yma i gofrestru. 

Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng Wales PEN Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac O’r Pedwar Gwynt.

Related Posts