Diwrnod Mamiaith / International Mother Language Day 2020

Mae Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yn ddathliad blynyddol i hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol

Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO fod 21 Chwefror yn Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith, ac fe’i nodir yn flynyddol yn rhyngwladol ers 21 Chwefror 2000.

Mae’r Diwrnod yn gyfle i hyrwyddo amlieithrwydd, ac i gydnabod ac amddiffyn yr hawliau dynol sydd gan leiafrifoedd a phobl frodorol yng nghyd-destun iaith.

Ym Mangladesh, 21 Chwefror yw’r dyddiad pan ymladdodd Bangladeshiaid am gydnabyddiaeth i’r iaith Bangla, a dyna oedd y sbardun i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith.  

Mae PEN Rhyngwladol wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i sicrhau bod amrywiaeth ieithyddol yn cael ei amddiffyn a’i hyrwyddo.

Mae PEN wedi cydnabod ers amser bod iaith ac addysg yn eich mamiaith a chydraddoldeb yn chwarae rhan hanfodol mewn perthynas â hunaniaeth, cyfathrebu, cyfannu cymdeithasol, addysg a datblygiad. Mae mynediad i addysg yn eich mamiaith yn hyrwyddo rhyddid i fynegiant, amrywiaeth ieithyddol, hyrwyddo heddwch a chydraddoldeb rhywedd.

International Mother Language Day (IMLD) is a worldwide annual observance to promote awareness of linguistic and cultural diversity and promote multilingualism.

21st February was declared to be the International Mother Language Day by UNESCO in 1999. It has been observed annually throughout the world since February 21st, 2000.

The purpose of International Mother Language Day is to promote and celebrate linguistic and cultural diversity – and to recognize and protect the human rights that minority and indigenous people have in the context of language.

The idea was the initiative of Bangladesh, where 21 February is the anniversary of the day when Bangladeshis fought for recognition for the Bangla language.

PEN International has been at the forefront of the campaign to ensure the protection and promotion of linguistic diversity.

PEN has long recognised that language and mother-tongue education and equality plays a vital role in relation to identity, communication, social integration, education and development. Access to mother tongue education advances freedom expressions, linguistic diversity, peacebuilding and gender equality.

Related Posts