Diwrnod Awduron dan Glo / Day of the Imprisoned Writer

Diwrnod Awduron dan Glo – 15 Tachwedd

Yn y carchar ond ddim yn dawel

Menna Elfyn, Llywydd PEN Cymru

Ar Ddiwrnod Awduron dan Glo, rydym ni yn PEN Cymru yn cydsefyll ag awduron sydd wedi eu carcharu am eu gwaith.

PEN Cymru yw canolfan Gymreig PEN Rhyngwladol sy’n hyrwyddo llenyddiaeth, yn amddiffyn rhyddid mynegiant ac yn ymgyrchu ar ran awduron o bob cwr o’r byd sy’n cael eu herlid a’u carcharu oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei ysgrifennu.

Mae diffiniad PEN o awdur yn cynnwys pob math o ysgrifennu – blogio, newyddiaduraeth, barddoniaeth, dramâu, rhyddiaith ac ati.

Bob blwyddyn ar 15 Tachwedd, mae PEN Rhyngwladol, canolfannau PEN ac aelodau PEN ledled y byd yn nodi Diwrnod Awduron dan Glo er mwyn cydnabod a chefnogi awduron sy’n gwrthwynebu gormes ar yr hawl ddynol sylfaenol i ryddid mynegiant ac sy’n wynebu carchariadau anghyfiawn, aflonyddwch, trais ac ymosodiadau yn erbyn eu hawl i rannu gwybodaeth ac i fynegi eu hunain.

Mae cannoedd o awduron yn y carchar heddiw ar draws y byd, ac mae nifer ohonynt yn wynebu erledigaeth oherwydd bod yr hyn maen nhw’n ei fynegi yn cythruddo’r awdurdodau, yn digio’r bobl bwerus ac yn anesmwytho’r llywodraeth. Awduron yw’r bobl sy’n cadw cydwybod o fewn cymdeithas; mae’n rhaid iddynt fod yn rhydd ac nid yn y carchar y mae eu lle. Ar y diwrnod hwn, bob blwyddyn, mae cymuned PEN i gyd yn mynegi mewn un llais ein bod ni am barhau i frwydro dros ryddid pob awdur, ble bynnag yn y byd, sy’n cael ei g/wahardd rhag gwneud ei g/waith.

Mae gan lenorion Cymraeg hanes hir o ymgyrchu dros eu hawliau; ac mae llawer wedi ysgrifennu am eu profiadau o orthrwm, sensoriaeth a charcharu. Mae’n gyfnod pwysig i awduron Cymru gymryd safiad rhyngwladol ar ormes, ac mae cefnogi PEN Cymru yn un ffordd o gefnogi’r gwrthsefyll yn erbyn twf yr adain dde eithafol, yma ac ar draws y byd. Fel Llywydd Wales PEN Cymru, mae’n fraint i mi gynnig cyfle i awduron Cymreig i gyd-ymgyrchu ag eraill dros ryddid mynegiant ar draws y byd ac i gefnogi’r rhai sy’n dioddef gormes ieithyddol.

Mae ymuno â PEN Cymru yn gyfle i ysgrifenwyr yng Nghymru i ymuno â mudiad rhyngwladol ac i berthyn i gymuned fyd-eang sy’n brwydro dros ryddid mynegiant. Mae aelodau’n derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau a thrafodaethau gydag awduron rhyngwladol ac ymgyrchwyr ac yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ymgyrchoedd PEN yng Nghymru a thu hwnt.

Mae aelodaeth yn agored i ysgrifenwyr o bob math, boed yn llenorion, yn newyddiadurwyr, yn gyfieithwyr, yn olygyddion, yn flogwyr neu yn fyfyrwyr ysgrifennu creadigol. Gellir ymaelodi â PEN Cymru am £2 neu £4 y mis ar ein gwefan.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth Wales PEN Cymru ar walespencymru@gmail.com.

Twitter ~ Facebook

Day of the Imprisoned Writer – 15 November

Imprisoned but not silenced

Menna Elfyn, President Wales PEN Cymru

On the Day of the Imprisoned Writer, Wales PEN Cymru stand in solidarity with writers who have been imprisoned for their work.

Wales PEN Cymru is the Welsh centre of PEN International promoting literature, defending freedom of expression and campaigning on behalf of writers around the world who are persecuted and imprisoned because of what they have written.

PEN’s definition of writer includes all forms of writing, from blogging and journalism to poetry plays and prose etc

Each year, on 15 November, PEN International, PEN Centres and PEN members from around the world commemorate the Day of the Imprisoned Writer to recognise and support writers who resist oppression of the basic human right to freedom of expression and who face unjust imprisonment, attacks, harassment and violence against their right to share information and for expressing themselves.

Around the world, hundreds of writers are in jail today, and many more face intimidation and persecution because what they express upsets the authorities, offends the powerful, and unnerves governments. Writers are the conscience-keepers of society; they must remain free.  On this day, every year, the entire PEN community says in one voice that we will continue to fight for freedom for any writer, anywhere in the world, who is prevented from doing his or her work.

Welsh-language writers have a long history of campaigning for their rights; and many have written about their experiences of oppression, censorship and imprisonment. It’s a very important time for Welsh writers to take an international stance on oppression, and supporting Wales PEN Cymru is one way to support resistance against the growth of the extreme right here and around the world. As President of Wales PEN Cymru, I am privileged to offer Welsh writers the opportunity to engage with others to campaign for freedom of expression across the world and to support those who experience language oppression.

Becoming a member of Wales PEN Cymru is an opportunity for Welsh writers to join an International organisation and belong to a world community fighting for free expression. Members will receive invitations to events and debates with international writers and activists and be encouraged to take part in PEN campaigns in Wales and further afield.

Membership is open to writers of all kind: authors, poets, journalists, translators, editors, bloggers and students of creative writing. You can become a member of Wales PEN Cymru for £2 or £4 a month on our website.

For more information contact Wales PEN Cymru secretariat on walespencymru@gmail.com.

Twitter ~ Facebook

Related Posts