Dathlodd Wales PEN Cymru Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda noson o farddoniaeth, straeon a cherddoriaeth ar y 9fed o Fawrth 2019 yn Theatr Volcano, Abertawe.
Cyflwynodd Jeni Williams y perfformwyr: Nia Davies, Saba Humayun, Sandy Ibrahim, Delyth Jenkins, Jo Mazelis, Margot Morgan, Grug Muse a Hannah Sabatia. Trefnwyd y noson mewn cydweithrediad â Chlwb Ffilmiau Menywod Cymru a’r Byd yn Un a Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Benywaidd Abertawe.
Ymunodd Wales PEN Cymru â Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe i lansio rhifyn diweddaraf Modern Poetry in Translation (MPT) ac i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn Theatr Taliesin ar y 14eg o Fawrth 2019, dan y teitl ‘Women of Britain’.
Cyflwynwyd y noson gan Owen Sheers, a chadeiriodd golygydd MPT, Clare Pollard, drafodaeth ar farddoniaeth, menywod, a’r ieithoedd amrywiol yn y DU gyda Menna Elfyn, Jeni Williams a Liz Berry, cyn i’r pedwar bardd ddarllen darnau o’r gwaith.