Dathlu cyfieithiad Catalaneg o ‘Murmur’, Menna Elfyn

[Read in English]

Cafwyd noson arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd ddiwedd Medi i ddathlu cyfieithiad Murmur, gan lywydd PEN Cymru, Menna Elfyn, i’r Gatalaneg.

Croesawyd pawb gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cyfnewidfa Lên Cymru gan nodi mai arwyddair y Gyfnewidfa yw Cyfieithu Cymru Darllen y Byd.  Mae i’r gair ‘pont’ yr un ystyr yn y ddwy iaith – Catalaneg a Chymraeg – sydd yn arwydd o’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, eu hieithoedd a’u llenyddiaethau.

I agor y noson, cafwyd darlleniadau o gerddi’r gyfrol ‘Murmur / Murmuri’ gan Menna Elfyn a’i chyfieithydd, Silvia Aymerich.

Bu Eluned Morgan AC yn trafod pwysigrwydd y cyfleoedd diwylliannol yma i Gymru bontio â gwledydd ac ieithoedd lleiafrifol eraill ac i barhau i ddatblygu’r cysylltiadau. Cyfeiriodd yn benodol at bwysigrwydd gwaith Mercator yn y maes hwn dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf a diolchodd i Menna Elfyn am fod yn llysgennad diwylliannol arbennig dros Gymru.

Croesawyd Carles Torner, Llywydd PEN Rhyngwladol, i siarad am arwyddocâd PEN yn brwydro dros hawliau llenorion, gyda phwyslais arbennig ar y sefyllfa yng Nghatalonia.

I gloi’r noswaith, rhannodd Elin Jones AC ei phrofiadau hi yn ymweld â chyn-lywydd Senedd Catalonia, Carme Forcadell, yn y carchar.

Dyma eitem gan Newyddion 9 o’r digwyddiad:

Related Posts