Dathlu 70 mlwyddiant y Datganiad Byd Eang ar Hawliau Dynol 1948

(cliciwch ar y llun i lawrlwytho’r poster)

Nos Iau, 13 Rhagfyr yn Llyfrgell Llambed am 6 o’r gloch.

Noson o sgwrs, barddoniaeth a bwyd rhyngwladol yng nghwmni:

  • Rebekah Humphreys, y darlithydd a’r Athronydd yn trafod Moeseg & Mudo
  • Menna Elfyn, y Bardd Rhyngwladol a Llywydd Wales PEN Cymru, yn darllen gwaith yn Gymraeg ac mewn cyfieithiad Saesneg.
  • Maaz Bin Bilal, y Bardd, Cyfieithydd a’r Darlithydd o Delhi, a Chymrawd Charles Wallace India Trust yn PCDDS, yn darllen barddoniaeth yn Saesneg ac Wrdw.
  • Jeni Williams, y Bardd a’r Darlithydd, yn darllen ei chyfieithiadau o farddoniaeth Swedeg Hana Halgren.

Bydd bwyd wedi ei baratoi gan Loches Menywod Abertawe & Grwp Cefnogi Ffoaduriaid.

Bydd casgliad tuag at waith Wales PEN Cymru ym Mecsico a Thwrci ar gyfer rhyddid mynegiant a hawliau newyddiadurwyr

MYNEDIAD AM DDIM – CROESO I BAWB

Related Posts