Her Gyfieithu 2018: Cyhoeddi’r Enillydd | Winner Announced

(English below)

Llewelyn Hopwood yw enillydd Her Gyfieithu 2018

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ond bellach yn fyfyriwr ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, mae Llewelyn Hopwood yn derbyn gwobr o £100 yn rhodd gan Mercator Rhyngwladol a Ffon Her Gyfieithu hardd o waith Elis Gwyn Jones, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Cyhoeddir ei gyfieithiad buddogol ar y wefan hon, yn ogystal ag ar wefan cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

Yr her eleni, oedd cyfieithu cerdd o Gatalunya gan y bardd Laia Martinez i Lopez (neu Laia Malo). Ymddangosodd y gerdd gyntaf ar fis Tachwedd 2017 ym mhapur newydd digidol Vilaweb fel rhan o gyfres o gerddi ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau Rhyddid) yn cyflwyno ymateb beirdd i’r sefyllfa yng Nghatalwnia.

Daeth deuddeg ymgais i law’r beirniad Ned Thomas, a ddywedodd:

“Roedd hon yn gystadleuaeth ddifyr ond anodd ei beirniadu. Yr oedd pob un o’r chwech uchaf mewn rhai mannau yn rhagori ar y lleill a bu rhaid imi gydbwyso ffactorau tra gwahanol. Yr oedd rhai wedi cadw’n agos iawn at drefn y llinellau gwreiddiol heb amharchu cystrawen naturiol y Gymraeg; eraill wedi mentro mwy gan newid y ffurf a’r drefn yn sylweddol tra’n llwyddo i gadw ysbryd a neges y gerdd wreiddiol. Rhu Tywi sydd ar ben y dosbarth hwnnw oherwydd menter ddisgybledig y gwaith. A dyma’r cyfieithydd sydd yn cael y wobr eleni ac yn llawn haeddu hynny.”

Sefydlwyd Her Gyfieithu yn 2008 gan Tŷ Cyfieithu, partneriaeth rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd, er mwyn ceisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg.  Y Gyfnewidfa fu’n cydlynnu’r her dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny mewn cydweithrediad a Wales PEN Cymru.

Dywedodd Sally Baker, Cyfarwyddwr Wales PEN Cymru:

“Mae Wales PEN Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Chyfnewidfa Lên Cymru ar yr Her Gyfieithu unwaith eto eleni.  Dewiswyd y gerdd gan Laia Martinez i Lopez gan ei fod yn gerdd sydd ag iddi berthnasedd i sefyllfa neu argyfwng penodol yn y byd ac sydd a wnelo â rhyddid mynegiant a hawliau ieithyddol, yn unol ag amcanion Wales PEN Cymru a PEN Rhyngwladol.”

Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones o Gyfnewidfa Lên Cymru:

“Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o gerdd mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall. Er nad yw’r unigolyn sydd yn medru’r Gymraeg a’r Gatalaneg, gan mai iaith sydd yn deillio o’r Lladin yw’r Gatalaneg, mae’n amlwg bod nifer o ymgeiswyr wedi defnyddio gwybodaeth o ieithoedd mwy cyffredin fel Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg i fedru cyrraedd a deall y testun.”


  • Gellir darllen cyfieithiad buddugol Llewelyn Hopwood ar wefan cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt, yma
  • Gellir darllen beirniadaeth Ned Thomas yn llawn ar wefan Wales PEN Cymru, yma;
  • Fe fydd y cyfieithiad buddugol yn cael ei darllen yn nigwyddiad Catalunya: Beth nesaf? a gynhelir ddydd Iau, 9 Awst 2018, yn Cymdeithasau 2, Y Senedd, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am 6:00yh, gydag Elin Jones AC, Begotxu Olaizola ar ran Assemblea Nacional Catalana a Ned Thomas. Cadeirir y digwyddiad a drefnir gan Mercator Rhyngwladol a Wales PEN Cymru gan Elin Haf Gruffydd Jones.

Llewelyn Hopwood has been proclaimed the winner of the 2018 Her Gyfieithu

Originally from Carmarthen, Llewelyn Hopwood currently eads modern languages at Jesus College, Oxford.

He will receives a £100 cash prize donated by Mercator International and a beautiful Her Gyfieithu staff, carved by Elis Gwyn Jones and and sponsored by Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.  His winning translation will also be published by Welsh-language literary magazine, O’r Pedwar Gwynt.

This year, the chosen work for the challenge was a poem in Catalan by Laia Martinez i Lopez (or Laia Malo).  The untitled poem first appeared in November 2017 in the digital newspaper Vilaweb, one of a series by different poets under the title ‘Proclames de Llibertat’ (Freedom Proclamations) which registered their response to the situation in Catalunya.

Twelve entries came to hand and the adjudicator Ned Thomas commented:

“This was an interesting but very difficult competition to assess. Each of the top six entries excelled in some respect and I needed to take varying factors into consideration. Some translators had kept very close to the order of the original lines without disturbing the natural syntax of the Welsh language; others had taken greater risks, changing the form and order of the lines significantly while keeping the spirit and message of the original poem. Rhu Tywi’s translation was in this latter category. His adventurous but disciplined translation makes him this year’s very deserving winner.”

The Translation Challenge was set up in 2008 by Tŷ Cyfieithu; a partnership between Wales Literature Exchange and Tŷ Newydd, in order to promote and encourage creative translation in Wales. For the last few years it has been co-ordinated by Wales Literature Exchange in partnership with Wales PEN Cymru.

Sally Baker, Wales PEN Cymru Director said:

“Wales PEN Cymru is extremely glad to be working in partnership with Wales Literature Exchange on the Her Gyfieithu again this year. The poem by Laia Martinez i Lopez was chosen as the poem has relevance to a specific situation in the world regarding freedom of expression and linguistic rights, in line with the objectives of Wales PEN Cymru and PEN International.”

Elin Haf Gruffydd Jones of Wales Literature Exchange said:

“A core element of the Her Gyfieithu is to get an understanding of a poem in one language and communicate it in another. While very few individuals are able to speak Welsh and Catalan, it is a language derived from Latin, which made it possible for a number of translators to use their knowledge of more familiar languages such as French, Spanish and Italian when approaching the text.”


  • The winning translation by Llewelyn Hopwood can be read on O’r Pedwar Gwynt’s website, here;
  • Read Ned Thomas adjudication on the Wales PEN Cymru, here;
  • The winning translation will be read at Catalunya: What next? an event to be held on Thursday, August 9, 2018, at Societies 2, Y Senedd, National Eisteddfod, Cardiff at 6:00 p.m., with Elin Jones AM, Begotxu Olaizola on behalf of Assemblea Nacional Catalana and Ned Thomas. The event organised by Mercator International and Wales PEN Cymru is chaired by Elin Haf Gruffydd Jones;

Related Posts