Blwyddyn Newydd Dda

Blwyddyn newydd dda!  Happy New Year!
Dyma obeithio  y cawn eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn sydd o’n blaenau.
Bu 2024 yn flwyddyn reit heriol. Buom  yn cefnogi’r galwadau am gadoediad yn y rhyfeloedd yn Wcrain ac yn Gaza. Ein ffocws fel o hyd yw  cefnogi newyddiadurwyr yn y gwahanol wledydd.  Arwyddwyd llythyrau at  y Prif Weinidog (ion) yn San Steffan  gan nodi mor annerbyniol oedd marwolaeth dros gant a hanner o newyddiadurwyr yn Llain Gaza. Mae’r sefyllfa yr un mor ddwys hefyd yn Wcrain.Ein bwriad ar ddechrau’r flwyddyn yw anfon at Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru yn ogystal â llythyr arall at y Prif Weinidog Keir Starmer. Yr ydym yn ffodus, fod gennym aelod o PEN Cymru yn gynrychiolydd  ar fwrdd  heddwch rhyngwladol PEN sef Simon Mundy, gan gyfrannu drosom at y rhwydwaith hwnnw.

Bu Dominic Williams, sydd yn cadeirio’r bwrdd gweithredol dros dro yn bresennol y Gyngres  Ryngwladol a gynhaliwyd eleni yn  Rhydychen gan gyfrannu at y digwyddiadau yno. Adroddodd am y cam newydd i greu pwyllgor Ieuenctid ac rydym yn croesawu hyn yn fawr. Llwyddodd Dom a Luca Paci i gymryd rhan mewn noson arbennig o farddoniaeth rhyngwladol yn ogystal.

 

 

We hope to have your support once again for the year ahead.
2024 was indeed a challenging year. We called repeatedly for ceasefires in the wars in Ukraine and Gaza. Our focus, as always, is supporting journalists and writers in the various countries.  We signed many letters to the Prime Minister(s) in Westminster and noted how unacceptable the death of over hundred and fifty journalists in Gaza. The situation is also just as dire in Ukraine.

Our intention at the beginning of the year is to send a letter to Eluned Morgan as First Minister of Wales, as well as a letter to Keir Starmer.  We are fortunate in that we have a Wales PEN Cymru member as representative on the peace group of PEN International and Simon Mundy has contributed greatly to that network.

Dominic Williams, who is currently our acting chair was present on our behalf in the Annual International Congress which was held this year in Oxford. He contributed to activities there and has supported the new step of creating a youth committee of PEN members. Dominic also as well as Luca Paci contributed to a special evening of international poetry there.

 

Cyrhaeddodd PEN Cymru garreg filltir yn ddeg oed eleni. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys digwyddiad yn Llundain gan Dylan Moore fel rhan o wythnos Cymru yn Llundain. Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau arbennig o’r enw “Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw..” a hynny gan Nici ar y cyd gyda Chymdeithas y Cymod a gyda chefnogaeth ariannol Llenyddiaeth Cymru. Roedd pob digwyddiad yn cynnwys darlleniadau a thrafodaeth ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd llenyddiaeth am ryfel, heddwch ac erledigaeth yng nghwmni awduron a beirdd  yng Nghaernarfon, Trawsfynydd ac Aberystwyth.
Yna, yn ystod Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd cawsom sesiwn ar lwyfan y Babell Lên gyda’r Archdderwydd Mererid Hopwood yn cadeirio. Dibynnwn ar waith gwirfoddol aelodau i drefnu digwyddiadau ac mae croeso i chi  gysylltu gyda’ch syniadau chi am ddigwyddiadau i’r dyfodol.

Fel y gwelwch mae’r bwrdd wedi bod yn brysur yn gweithredu ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith ar hyd y flwyddyn. Os hoffech chi wirfoddoli i fod yn aelod o’r bwrdd – ac mae ambell un yn sefyll i lawr eleni – cysylltwch â ni yn ddi-oed. Bydd cyfarfod blynyddol PEN Cymru yn digwydd arlein ar Chwefror 24ain a gobeithiwn yr ymunwch â ni.

Wales PEN Cymru reached the milestone of ten years in 2024.  Many events were arranged including an event in London curated by Dylan Moore as part of the Wales Week in London. We also arranged a series of special events during the summer under the title of  ‘Mae Sŵn yr Ymladd ar ein clyw.’ (The Noise of the war is in our ears. a translation of one of the lines from Hedd Wyn’s poem ‘Rhyfel’) in collaboration with Cymdeithas y Cymod (The Society of Reconciliation) and with financial support of Literature Wales.  Every event included readings and discussions of the importance of literature on the theme of war, peace and oppression in the company of writers /poets in Caernarfon, Trawsfynydd, and Aberystwyth.

During the National Eisteddfod in Pontypridd, there was also a session in the Literary Pavilion with the Archdderwydd Mererid Hopwood presiding.   As we depend on voluntary activity from the members to organise events, we would welcome any suggestions and ideas for future events.As you can see, the board has been busy with activities, and we are grateful to all for their work during the year. If you would like to volunteer and be a member of the board—a few are stepping down—please get in touch at once.  The next Annual General Meeting of PEN Cymru will be online on February 24th, and we hope you can join us at that meeting.

 

Un o lwyddiannau mwyaf PEN Cymru yn 2024 (a diolch i un aelod yn arbennig sef Caroline Stockford) oedd ennill yr apêl i ryddhau Ilhan Sami Comak o’r carchar yn Istanbul ar ôl treulio dros 30 mlynedd fel carcharor gwleidyddol.  Diolch i bob un ohonoch a fu’n cefngoi’r apêl ac yn cefnogi Ilhan yn ystod ei garchariad. Yn awr, rhaid inni fynd ati i gefnogi  awdur arall sydd wedi ei gaethiwo sef Alaa Abd el-Fattah, awdur ac chyd-dderbynnydd gwobr Pinter PEN eleni, sydd wedi treulio’r degawd diwethaf yn y carchar yn yr Aifft am ei ysgrifau ar hawliau dynol a thechnoleg ac o blaid democratiaeth.

Rydym hefyd yn sefyll mewn undod â chydweithwyr yn Georgia sydd wedi bod yn protestion ddiflino yn erbyn mesurau a gychwynnwyd gan y llywodraeth sydd wedi arwain at ffrwyno rhyddid mynegiant yn sector y celfyddydau ac arestiadau awduron a newyddiadurwyr

 

One of PEN Cymru’s most successful achievements in 2024 (thanks mainly to Caroline Stockford) was the successful appeal application to release poet İlhan Sami Çomak from prison in Istanbul after serving over 30 years as a Kurdish political prisoner.

Thanks to all of you who supported İlhan and the appeal. Now, we must continue supporting another writer who has been imprisoned—Alaa Abd El-Fattah, co-winner of the PEN Pinter Prize this year, who has spent the last decade in prison in Egypt for his essays on human rights and technology and for democracy.

We also stand in solidarity with colleagues in Georgia who have been protesting tirelessly against measures instigated by the government which have resulted in curbing freedom of expression in the arts sector and arrests of writers and journalists.

 

Yn olaf, carwn  leisio ple daer am gefnogaeth gan y bydd 2025 yn flwyddyn pan fydd llawer o unbenaethiaid  yn rheoli llywodraethau ar draws y byd . A dyna pam y bydd galw ar PEN Cymru i ymateb gyda  dewrder, empathi a thrafodaeth greadigol.
Beth am wynebu’r her newydd gan ddangos ein bod  yn sefyll dros yr egwyddorion a welodd sefydlu PEN Rhyngwladol ganrif a mwy yn ôl?  Croeso i chi rannu’r neges hwn gyda chyfeillion sy’n feirdd, llenorion, awduron i’r llwyfan a’r sgrin, cyfieithwyr a chyhoeddwyr.
 

Finally, we’d like to make a plea for support in 2025 since it’s a year when so many autocrats will be in control of governments worldwide.  And that is why PEN Cymru will always need to respond with courage, empathy and creative dialogues. Let’s face these new challenges by showing that we stand by the principles that saw the establishment of PEN International a century and more ago. Feel free to share this message with friends who are poets, authors, journalists, writers for stage and screen, translators and publishers.

MENNA ELFYN                                               NICI BEECH
LLYWYDD  / PRESIDENT                          YSGRIFENNYDD / SECRETARY

Dyma’r ddolen i ymuno / ail-ymaelodi / Join or renew your membership here