Her Gyfieithu 2018: Beirniadaeth Ned Thomas

Braf oedd cael cymaint â deuddeg yn ymgeisio yn yr Her Gyfieithu Cymraeg eleni. Ers i PEN Cymru a’r Gyfnewidfa Lên noddi’r gystadleuaeth dyma’r mwyaf a gafwyd yn cystadlu ar yr ochr Gymraeg, a hynny pan oedd gofyn cyfieithu o iaith leiafrifol. Yr esboniad o bosibl yw bod y Gatalaneg yn iaith led-dryloyw i’r rhai sydd yn medru’r ieithoedd Lladin eraill, a chystal imi gyfaddef mai hwyr yn y dydd a thrwy’r Sbaeneg yn bennaf y deuais innau at y Gatalaneg. Ond mae tebygrwydd arwynebol yn gallu bod yn beth peryglus hefyd. Mae’n annog neidio i gasgliadau, ac yr oedd rhai enghreifftiau o bobl yn gwneud hynny’n fyrbwyll yn y gwaith ddaeth i law.

Fel y nodir yn y cyflwyniad, mae’r gerdd yn un o lawer a ymddangosodd ar wefan newyddion Vilaweb pan wahoddwyd beirdd Catalwnia i ymateb i refferendwm Hydref 1af 2017 a’r digwyddiadau ddeilliodd o hynny. Prin fod angen imi eich atgoffa o drais y Guardia Civil y diwrnod hwnnw ac urddas eu gwrthwynebwyr di-drais. Yn dilyn datganiad annibyniaeth carcharwyd nifer o wleidyddion a threfnwyr y refferendwm, ac aeth eraill yn alltud. Cyhuddwyd cannoedd o bobl gyffredin hefyd am iddynt hyrwyddo’r refferendwm mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Pob dydd yr oedd degau o filoedd ac yn wir cannoedd o filoedd o bobl yn protestio ar y strydoedd. Teitl cyffredinol y gyfres o gerddi a ymddangosodd ar Vilaweb oedd Proclames de Llibertat ac yn y cyd-destun mae mwy nag un ystyr i’r gair Llibertat – rhyddid cenedlaethol, rhyddid i’r rhai sydd yn y carchar, a rhyddid seicolegol, cael gwared ar ofn. Sylwch ar y llinell gyntaf: “Ers dyddiau rwyt ti’n gweiddi ar y strydoedd nad oes arnat ofn.”

Dyw cael achos cyfiawn, fodd bynnag, ddim o angenrheidrwydd yn gwarantu cerdd lwyddiannus. Darllenais y gyfres gyfan ar Vilaweb a chael y rhan fwyaf o’r cerddi braidd yn rhy uniongyrchol ac amlwg eu neges. Yr hyn sydd yn apelio i mi yn y gerdd ddewiswyd ar gyfer y gystadleuaeth yw’r tyndra mewnol – tyndra rhwng geiriau a sylwedd; rhwng grym moesol y datgan cyhoeddus fod pawb yn gyfwerth, â’r rhwystredigaeth o orfod derbyn bod y grym milwrol yn nwylo eraill; rhwng y bloeddio sloganau “sydd i fod i achub y byd” â’r anallu i gynnig unrhyw gysur gwirioneddol.

Y llinell sy’n crynhoi’r tyndra yw’r un a ail-adroddir yma ac acw drwy’r gerdd: “pro arribes a casa i no pots cantar.” (Ond wyt ti’n cyrraedd adref ac yn methu canu). Dyma fyrdwn y gerdd yn ystyr syniadol a cherddorol y gair hwnnw. Ac fel sy’n bosibl mewn barddoniaeth, mae’r llinell yn dweud dau beth gwahanol yr un pryd: mae’n dweud bod ddim modd canu, ac eto i gyd mae’r llinell ei hun yn canu, a thrwy hynny’n dangos yr hyn sy’n mynd ar goll.

Roedd hi’n bwysig i mi bod y llinell hon hefyd yn canu yn y cyfieithiad. Roedd nifer yn cadw’r gair canu ar ddiwedd y llinell, e.e. “Ond cyrhaeddi di adref ac ni fedri ganu” sydd yn gyfieithiad difai, ond yr oedd eraill wedi dewis cadw yn nes at oslef a melodi’r gwreiddiol gan orffen gyda sill acennog, e.e. “Wrth gyrraedd dy aelwyd – distawa dy gân”.

Pwy yw’r “ti” a anerchir yn y gerdd? Mi allai fod yn rhywun agos at y bardd ac yn byw dan yr un to; neu mi all mai’r bardd sy’n siarad â nhw ei hunan. O ran cyfieithu nid oes angen dewis – gellir yn hawdd cadw’r amwyster – ond y tebygrwydd yw mai annerch yr hunan y mae’r bardd – yn enwedig o gofio bod hithau’n gantores. Mae un lle yn y gerdd – yn y drydedd linell o’r diwedd – lle mae’r terfyniadau benywaidd yn y geiriau “sola” ac “arraulida” yn dangos mai merch a anerchir. Sut mae cyfleu hynny mewn cyfieithiad Cymraeg? Dim ond un ymgeisydd (sef Barcud) fentrodd gwneud, a hynny’n ddeheuig iawn: “Ac ar dy ben dy hun, ferch,/ yn cyrcydu’n y gornel weddïo”.

Yr oedd sylwi ar hyn efallai’n gwneud hi’n haws deall y llinell fwyaf tywyll yn y gerdd, sef “Aturarem la fam penjant els davantals” (Rhown derfyn ar newyn gan hongian y ffedogau). Bodlonodd rhai ar gyfieithiad air am air o’r fath. Bu eraill yn ceisio dehongli ystyr yr hongian – ai rhoi’r ffedogau i gadw oedd yr ystyr? A sut y byddai hynny’n ffitio’r ddadl? Ar ôl pendroni’n hir, cofiais yn sydyn imi ddarllen ar wefan Vilaweb am brotest Diwrnod y Merched eleni (2018). Drwy wledydd Sbaen gofynnwyd i ferched fynd ar streic o’i gwaith cyflogedig ac o’i gwaith domestig, ac i ymgasglu’n y strydoedd. Petaent yn gorfod aros yn y tŷ i ofalu, gofynnwyd iddynt hongian eu ffedogau o’r ffenestri a’r balconïau. Slogan y diwrnod oedd Ens Aturem – Rydym ar stop!  Dyma felly llinell yn y gerdd sydd yn adleisio’r slogan hwnnw, yn cyfeirio at y ffedogau ac yn ehangu ystyr Llibertat i gynnwys rhyddid merched hefyd. Ysgrifenwyd y gerdd ym mis Tachwedd 2017 cyn streic fawr 2018, ond mi fu streic ar raddfa llai y flwyddyn gynt, neu efallai bod y bardd yn rhan o baratoadau 2018. Ond dyna yn ddi-os y mae’r gerdd yn cyfeirio ato, ac un ymgeisydd yn unig (Ffugenw Rhu Tywi) ddewisodd crogi’r ffedogau o’r ffenestri. Cynigiodd neb droednodyn!

Roedd symud rhwng diwylliannau yn gwestiwn gododd mewn ffordd wahanol wrth gyfieithu’r bedwaredd linell “i dels temors en farem flors” (air am air “o’r ofnau fe wnawn flodau”). Dewisodd mwy nag un gyfeirio at stori Blodeuwedd. Roedd symud y gerdd i’r byd Cymreig yn beth mentrus ac eto’n beryglus. O wneud cymhariaeth, ble mae’r gyfochredd yn cychwyn a ble mae’n gorffen? Mae dewiniaeth Gwydion yn cyd-redeg yn dda ag alcemi’r gerdd Gatalaneg. Os mynd ymhellach â son yn rhy fanwl am Blodeuwedd mae cwestiynau’n dechrau codi am faint o gyfochredd wirioneddol sydd. Felly cynildeb piau hi.

Roedd hon yn gystadleuaeth ddifyr ond anodd ei beirniadu. Yr oedd pob un o’r chwech uchaf mewn rhai mannau yn rhagori ar y lleill a bu rhaid imi gydbwyso ffactorau tra gwahanol. Yr oedd rhai wedi cadw’n agos iawn at drefn y llinellau gwreiddiol heb amharchu cystrawen naturiol y Gymraeg; eiddo Cathryn oedd y cyfieithiad mwyaf manwl-gywir yn y dosbarth hwnnw, ac rwyf am gydnabod hynny wrth ei henwi. Ond yr oedd eraill wedi mentro mwy gan newid y ffurf a’r drefn yn sylweddol tra’n llwyddo i gadw ysbryd a neges y gerdd wreiddiol. Rhu Tywi sydd ar ben y dosbarth hwnnw oherwydd menter ddisgybledig y gwaith. A dyma’r cyfieithydd sydd yn cael y wobr eleni ac yn llawn haeddu hynny.