Roedd yn anrhydedd i feirniadu gwobr Emyr Humphreys – yr un cyntaf erioed. Sefydlwyd y wobr i ddathlu ffurf yr ysgrif ffeithiol a gyhoeddwyd yng Nghymru, yn Saesneg neu Gymraeg. Cawsom amrywiaeth o erthyglau a thraethodau, ond roedd ganddyn nhw un peth yn gyffredin, sef y ffocws ar Gymru a’i pherthynas â’r byd. Fel beirniaid, roeddwn ni yn edrych am ddarnau sylfaenol yr oeddem eisiau eu gweld yn cael eu darllen yn fwy eang, tu hwnt i Gymru. Roedd y pynciau yn cynnwys gwleidyddiaeth y cof hanesyddol, iaith farddonol, hunangofiant, grym arwyddion, rhagfarn, cyfieithu, a mwy. I ddechrau, cawsom y dasg o ddewis un enillydd yn unig. Ond ar ôl darllen a thrafod gyda’n gilydd, penderfynon ni rannu’r wobr rhwng dau awdur eithriadol, yn Saesneg a Chymraeg. Yn gyntaf, y darn Saesneg – ‘When Vice Came to Swansea’ gan Mark S Redfern. Roedd hon yn ysgrif bwysig yn beirniadu’r ffordd y mae Cymru – yn enwedig De Cymru – yn cael ei phortreadu ar ffilm a theledu. Ar ôl dadansoddi’r ffilm ddogfen ‘Vice’ am broblem cyffuriau yn Abertawe, mae’r awdur yn ysgrifennu’n llyfn ac yn berswadiol am yr angen am bortreadau diwylliannol amgen o Gymru. Mae’r erthygl yn amlygu’r berthynas o rym anghyfartal rhwng Cymru a Lloegr trwy lens ffilm boblogaidd ar YouTube. Er bod y pwnc ei hun yn wahanol, mae’r ddadl yn fy atgoffa o draethawd Emyr Humphreys, ‘Arnold in Wonderland’, sydd hefyd yn feirniadol o’r portread ‘hudol’ o Gymru gan y bardd Saesneg, Matthew Arnold. Fel Humphreys, mae’r awdur yma yn cyd-blethu ei ddadansoddiad gyda golwg ehangach ar ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Rwyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno â chlo yr ysgrif, lle mae’r awdur yn galw am gyfryngau newyddion cryf, newydd yng Nghymru. Mae’n siomedig nad ydy gwaith ffeithiol awduron Cymru yn teithio dros y ffin yn aml. Mae croesi ffiniau yn elfen bwysig yn y traethawd Cymraeg buddugol hefyd – ‘Doethineb Iaith’ gan Mererid Hopwood. Mae hi wedi’i hysgrifennu’n gain iawn, ac mae’r arddull yn hardd ac yn ystyriol. Mae’r pwnc yn un hanfodol dros ben i Gymru – ac mi ddylai fod un bwysig i’r byd tu allan i Gymru hefyd – sef gallu iaith i lunio ein dealltwriaeth o’r byd. A, thrwy estyniad, pwysigrwydd cyfieithu a dysgu iaith newydd, sydd yn fodd i ymestyn a dyfnhau ein perthynas â’r byd a gyda’n gilydd. Nid oes amser gwell na hyn i gael ein hatgoffa o ryfeddod amlieithrwydd, y ffordd mae hi’n agor drysau’r meddwl, yn ogystal â drysau tu fewn ein cymunedau. Ar ôl Brexit (cofio hwnna?) a’r toriadau i ieithoedd modern mewn ysgolion, mae’n amlwg nad ydy mwyafrif o bobl ym Mhrydain yn ystyried ieithoedd fel rhywbeth hanfodol i’n hunaniaeth ac i’r ffordd rydym yn dirnad realiti. Felly mae ysgrif huawdl, fyfyriol fel hon yn hynod o werthfawr fel gwrthwenwyn i’r oes yma. I gloi, hoffwn ddweud eto mor falch yr oeddwn i gael bod yn rhan o’r wobr hon a darllen cymaint o ddarnau gan awduron talentog. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau enillydd teilwng – Mark Redfern a Mererid Hopwood! Eluned Gramich
|
It was an honour to be asked to judge the inaugural Emyr Humphreys prize. The first prize in Wales established to celebrate short-form non-fiction, in Welsh or English. We received a lovely variety of articles and essays, all of which had one thing in common: a focus on Wales and its relationship with the world. As judges, we looked for original pieces that we would like to see shared widely in Wales and beyond. The subjects ranged from the politics of historic memory, poetic language, memoir, the power of signs, prejudice, translation, and more. We were asked to choose just one winner initially; however, after reading and discussing the nominations, we decided to share the prize between two brilliant writers, in Welsh and English. First, our English language winner – ‘When Vice Came to Swansea’ by Mark S Redfern. This is an important piece of criticism, exploring and unpicking the way Wales is portrayed on film and TV. Along with his astute critique of the Vice documentary exploring Swansea drug culture, Redfern writes smoothly and persuasively of the need for new, original documentary stories from Wales. The article uncovers inequalities between Wales and England through analysing this extremely popular and – he argues – damaging film, accessible to millions of viewers on YouTube. Despite the different subject matter, Redfern’s argument reminds me of the famous essay by Emyr Humphreys, ‘Arnold in Wonderland’, which criticises the portrayal of Wales by the English poet laureate, Matthew Arnold. Like Humphreys, Redfern weaves specific analysis with a wider view of Welsh culture and politics. I think we can all agree with his conclusion; namely, that Wales needs a stronger, more robust news media to counter cliched representations of poverty and drug abuse. Following on from this, it is also a shame that non-fiction pieces by Welsh writers rarely makes it across the border. Crossing borders is an important element in the winning Welsh-language essay too – ‘Doethineb Iaith’ by Mererid Hopwood. The article is written with flair; its style considered and beautiful. The subject matter is crucial in Wales – and it ought to be as relevant and important outside of Wales too – namely, how language shapes our understanding of the world. And, by extension, the importance of translation and language learning, which widens and deepens our connection with the world and each other. There is no better time to be reminded of the wonder of multilingualism, the way it opens the doors of the mind, as well as doors within our communities. After Brexit (remember that?) and the cuts to modern languages in schools, it’s clear that the majority of people in Britain do not consider languages as essential to our identity and the way we perceive reality. As such, a medidative and eloquent essay like this is especially valuable for our times. To finish, I’d like to say again how wonderful it was to be a part of this inaugural prize and to be able to read many articles by talented writers working in Wales today. A huge congratulations to our two worthy winners – Mark Redfern and Mererid Hopwood! Eluned Gramich |